Mae hwn yn gyfle datblygu, lle byddwch yn treulio 8 wythnos yn Uganda, yn cefnogi canolfan blant gyda’ch arbenigedd ym maes diogelu, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r ganolfan blant wedi’i lleoli ym Mbale yn Nwyrain Uganda, gyda 30 o staff amser llawn a 51 o blant yn mynychu’r ganolfan ddydd bob dydd, 30 o blant yn cael bwyd y tu allan i’r ganolfan yn y gymuned, a 60 o blant o dan addysg plant yn y blynyddoedd cynnar. Mae’r ganolfan blant yn fan diogel, lle mae plant o dan 3 mlwydd oed yn cael mynediad at brydau bwyd maethlon, gwasanaethau meddygol, chwarae a ffisiotherapi, yn ogystal â sesiynau dysgu blynyddoedd cynnar sy’n hyrwyddo eu datblygiad iach. Tra bod y plant yn y ganolfan ddydd, mae’r mamau’n cael y cyfle i gael mynediad at waith, sydd yn ei dro, yn galluogi iddynt edrych ar ôl eu teuluoedd mewn ffordd gynaliadwy.
Yn ychwanegol at y ganolfan ddydd, mae’r ganolfan yn cefnogi teuluoedd gydag ystod o raglenni fel hyfforddiant i greu incwm, grwpiau cynilo, cwnsela a chefnogaeth ar gyfer pobl sydd wedi goddef cam-drin domestig. Mae’n gweithio’n agos gyda’r uned camfaethiad yn yr ysbyty atgyfeirio rhanbarthol, i ddarparu pryd nos i bob plentyn sydd yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, yn ogystal â chefnogi plant unigol ym Mbale sy’n cael trafferth gyda chamfaethiad acíwt difrifol.
Mae’r Ganolfan yn ymestyn allan i geisio diogelu plant rhag trais domestig a rhag cael eu cam-drin, ac i rymuso mamau gyda’r sgiliau i ofalu am anghenion eu plant.
Mae gweithgareddau’r lleoliad yn cynnwys:
Byddwch yn arbenigo mewn diogelu, a chyda cefndir perthnasol fel y gyfraith, cysylltiadau cyhoeddus, gwaith cymdeithasol, addysgu neu faethu. Byddwch yn gallu datrys gwrthdaro ac yn gallu dylunio a darparu hyfforddiant.
I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.
Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.
Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.
Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.