Mae hwn yn gyfle datblygu, i dreulio 8 wythnos yn Lesotho, yn cefnogi datblygu dysgu digidol o fewn y cwricwlwm ysgol, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r lleoliad mewn sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu’r cwricwlwm ysgolion, ac am ddarparu deunyddiau cyfarwyddol ar gyfer dysgu yn Lesotho.
Mae’r sefydliad yn ceisio gwella’r cwricwlwm trwy gynllunio profiadau dysgu digidol rhyngweithiol, hygyrch a deniadol sy’n cyd-fynd ag egwyddorion pedagogaeth ddigidol.
Trwy’r lleoliad hwn, mae’r sefydliad yn dymuno cyfarparu eu hunain gyda sgiliau llythrennedd digidol uwch, gwell dealltwriaeth o bedagogaeth ddigidol, a dysgu sut i greu a threfnu deunyddiau dysgu digidol ar gyfer digideiddio’r cwricwlwm.
Bydd gennych hyfedredd technegol mewn defnyddio offer creu cynnwys, a dealltwriaeth o reoli llwyfannau digidol fel Systemau Rheoli Dysgu (LMS) ar gyfer trefnu a chyflwyno cynnwys cwricwlwm, yn ogystal â dealltwriaeth o addysg ddigidol.
I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.
Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.
Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.
Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.