EN
string(15) "ilo-opportunity"
< Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Lleoliad Epidemiolegydd

Lleoliad: Uganda Iechyd Funded by Welsh Government | Ariennir gan Lywodraeth Cymru

Mae hwn yn gyfle datblygu, lle byddwch yn treulio 8 wythnos yn Uganda, yn cefnogi canolfan blant gyda’ch arbenigedd mewn atal a rheoli haint, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ynghylch y sefydliad

Mae’r ganolfan blant wedi’i lleoli ym Mbale yn Nwyrain Uganda, gyda 30 o staff amser llawn a 51 o blant yn mynychu’r ganolfan ddydd bob dydd, 30 o blant yn cael bwyd y tu allan i’r ganolfan yn y gymuned, a 60 o blant o dan addysg plant yn y blynyddoedd cynnar.  Mae’r ganolfan blant yn fan diogel, lle mae plant o dan 3 mlwydd oed yn cael mynediad at brydau bwyd maethlon, gwasanaethau meddygol, chwarae a ffisiotherapi, yn ogystal â sesiynau dysgu blynyddoedd cynnar sy’n hyrwyddo eu datblygiad iach. Tra bod y plant yn y ganolfan ddydd, mae’r mamau’n cael y cyfle i gael mynediad at waith, sydd yn ei dro, yn galluogi iddynt edrych ar ôl eu teuluoedd mewn ffordd gynaliadwy.

Yn ychwanegol at y ganolfan ddydd, mae’r ganolfan yn cefnogi teuluoedd gydag ystod o raglenni fel hyfforddiant i greu incwm, grwpiau cynilo, cwnsela  a chefnogaeth ar gyfer pobl sydd wedi goddef cam-drin domestig. Mae’n gweithio’n agos gyda’r uned camfaethiad yn yr ysbyty atgyfeirio rhanbarthol, i ddarparu pryd nos i bob plentyn sydd yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, yn ogystal â chefnogi plant unigol ym Mbale sy’n cael trafferth gyda chamfaethiad acíwt difrifol.

Ynghylch y rôl

Mae’r slym fwyaf ym Mbale yn wynebu llawer o heriau meddygol ac achosion rheolaidd o glefydau, fel colera. Bydd y lleoliad yn cynnwys cynnal ymchwil syml gyda’r rhieni a’r plant yn y Ganolfan yn ogystal â gydag arweinwyr lleol, i ddarganfod beth sy’n achosi’r clefydau, a chynnig y ffyrdd sylfaenol gorau i reoli iechyd yn y gymuned.

Gall gweithgareddau lleoli gynnwys:

  • Drafftio llawlyfr iechyd a diogelwch ar gyfer y Ganolfan
  • Archwilio adnoddau sylfaenol i fonitro iechyd
  • Creu ffurflen casglu data meddygol ar gyfer y Ganolfan
  • Sefydlu system monitro iechyd ar gyfer y Ganolfan, i fonitro iechyd plant a staff
  • Cynnal arolwg o’r achosion o glefydau yn y Ganolfan

Amdanoch chi

Byddwch yn epidemiolegydd ac yn ddelfrydol, wedi’ch hyfforddi neu gyda phrofiad o weithio mewn amgylchedd seiliedig ar blant.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.

Gwneud cais

Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.

Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.

Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol: canllaw i ymgeiswyr