EN
string(15) "ilo-opportunity"
< Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Lleoliad Hyfforddwr

Lleoliad: Uganda Newid Hinsawdd a'r AmgylcheddDysgu Gydol OesPolisi ac Ymgyrchoedd
Funded by Welsh Government | Ariennir gan Lywodraeth Cymru

Mae hwn yn gyfle unigryw i dreulio 8 wythnos yn Uganda, yn cefnogi menter amgylcheddol gyda’ch arbenigedd mewn addysgu sgiliau ysgrifennu, fel rhan o Raglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Ynghylch y sefydliad

Mae’r sefydliad nid-er-elw hwn wedi’i gofrestru ac wedi’i leoli yn Uganda, ac yn gweithredu yn rhanbarth Mynydd Elgon, a gyda chysylltiadau cryf â Chymru. Cafodd ei raglen plannu coed ei sefydlu o ganlyniad i’r ffaith bod angen mynd i’r afael â datgoedwigo difrifol, diraddio tir ac effeithiau newid hinsawdd, gyda’r manteision o leihau effeithiau newid hinsawdd, darparu cyflenwadau cynaliadwy o danwydd, lloches a bwyd, a lleddfu tlodi.

Ynghylch y rôl

Mae’r sefydliad yn cynhyrchu llawer o wybodaeth bob blwyddyn, ond mae wedi sylwi nad yw llawer ohoni’n cael ei hysbysebu i ddylanwadu ar bolisi, gwleidyddiaeth, a phroffesiynoldeb tuag at blannu ac adfer coed, bywoliaethau, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a newid hinsawdd, rheoli tir yn gynaliadwy, cynilion pentrefi a chymdeithasau benthyciadau  fel microfanciau, a’i gyfraniad at ymwrthedd i’r hinsawdd a datblygiad cynaliadwy. Mae staff y sefydliad yn cymryd rhan mewn seminarau a gweithdai, ac wedi darganfod, er bod y sefydliad wedi cyflawni llawer ers dechrau plannu coed ac wedi dysgu ac esblygu ei weithgareddau, nad yw llawer yn cael ei rannu. Mae angen, felly, rhoi llais a hyrwyddo rhwydweithio trwy gyfrwng defnyddio dulliau o’r gwaelod i fyny wedi’u seilio ar werthoedd cyffredin. Mae hyn yn galw am drafod, dysgu, rhannu gwybodaeth a phrofiad, a dadansoddiad beirniadol. Byddai hyn yn helpu i adeiladu gwybodaeth a safbwyntiau, siapio strategaethau effeithiol, cryfhau llais y sefydliad yn genedlaethol, yn rhanbarthol, ac ar draws y byd, a ffurfio cynghreiriau/partneriaethau. Ar hyn o bryd, nid yw’r capasiti hwn yn ddigonol yn y sefydliad ond gyda rhywfaint o ymdrechion bwriadol, gellid ei adeiladu o fewn y staff presennol.

Canlyniadau disgwyliedig y lleoliad ydy adnoddau a dulliau i wella sgiliau ysgrifennu, a galluoedd o fewn y staff ar gyfer lledaenu gwaith y sefydliad yn effeithiol trwy wella ysgrifennu, gan gynnwys adroddiadau, crynodebau polisi, erthyglau gwyddonol/adroddiadau gan gymheiriaid a chyfarfodydd.

Amdanoch chi

Bydd gennych arbenigedd a phrofiad mewn addysgu ysgrifennu at ddibenion academaidd a phroffesiynol, a byddwch yn gallu dylunio a darparu gwersi a deunyddiau diddorol wedi’u teilwra yn unol ag anghenion y dysgwyr.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.

Gwneud cais

Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.

Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.

Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol: canllaw i ymgeiswyr