EN
string(15) "ilo-opportunity"
< Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Lleoliad Iaith Arwyddion

Lleoliad: Lesotho Amrywiaeth a Chynhwysiant
Funded by Welsh Government | Ariennir gan Lywodraeth Cymru

Mae hwn yn gyfle datblygu, i dreulio 8 wythnos yn Lesotho, yn cefnogi myfyrwyr coleg gyda’ch arbenigedd iaith arwyddion, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ynghylch y sefydliad

Mae’r lleoliad yn cael ei gynnal mewn coleg sy’n cynnig hyfforddiant cychwynnol i athrawon, yn ogystal â chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer addysgwyr yn Lesotho.

Ynghylch y rôl


Mae uned cymorth myfyrwyr y coleg wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar, ac mae’n dal i ddatblygu. Mae galw am ddehonglwyr iaith arwyddion y tu hwnt i nifer yr hyn sydd ar gael, a byddai myfyrwyr sy’n dioddef o anawsterau clyw yn elwa o gefnogaeth ychwanegol.


Bydd y cyfle hwn yn cynnwys dehongli iaith arwyddion i gefnogi myfyrwyr ac i gynorthwyo myfyrwyr a’u hathrawon i gyfathrebu, fel helpu myfyrwyr i ofyn cwestiynau ac ymateb i gwestiynau athrawon.

Amdanoch chi

Byddwch yn ddehonglydd iaith arwyddion, gyda chymhwyster priodol a phrofiad.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.

Gwneud cais

Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.

Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.

Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol: canllaw i ymgeiswyr