EN
string(15) "ilo-opportunity"
< Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Lleoliad Iechyd y Cyhoedd

Lleoliad: Uganda IechydDŵr, Glanweithdra a Hylendid Funded by Welsh Government | Ariennir gan Lywodraeth Cymru

Mae hwn yn gyfle datblygu, yn treulio 8 wythnos yn Uganda, yn cefnogi bwrdd iechyd rhanbarth gyda’ch arbenigedd ym maes iechyd y gymuned neu atal a rheoli heintiau, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ynghylch y sefydliad

Mae’r lleoliad mewn swyddfa iechyd llywodraeth leol yn nwyrain Uganda. Ei gyfrifoldebau yw cynllunio, cydlynu, monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd o ansawdd i’r boblogaeth gyffredinol yn y rhanbarth. Mae’n ymwneud â hyrwyddo iechyd a threchu afiechyd, ac yn darparu gwasanaethau iachâd, gofal cleifion difrifol a gwasanaethau adsefydlu.

Ynghylch y rôl

Byddwch yn gysylltiedig ag adran y System Wybodaeth ar Reoli Iechyd, ac yn gweithio’n agos gyda’r bioystadegydd dan oruchwyliaeth Swyddog Iechyd y Rhanbarth. Gall gweithgareddau’r lleoliad gynnwys y canlynol:

  • Rhoi cyngor ar Atal a Rheoli Heintiau (IPC) a gweithgareddau iechyd amgylcheddol, ac archwilio ffyrdd i leihau achosion o glefydau heintus fel colera, ebola ac mpox sy’n gyffredin yn y rhanbarth
  • Gwella’r prosesau sy’n gysylltiedig â rheoli iechyd mamol, gofal iechyd ar gyfer y newydd-anedig ac iechyd plant.
  • Rheoli TB/Gwahanglwyf
  • Dadansoddi setiau data presennol a chofnodi data ar ymyriadau meddygol yn y sector iechyd
  • Dod o hyd i ffyrdd o fonitro afiechydon
  • Darparu hyfforddiant ymarferol i weithwyr iechyd ar y meysydd allweddol a nodwyd
  • Ymweld â chanolfannau iechyd yn y rhanbarth

Amdanoch chi

Byddwch yn feddyg gyda phrofiad o weithio ym maes  iechyd cymunedol, yn arbenigwr ym maes Atal a Rheoli Heintiau, neu yn ddadansoddwr data.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.

Gwneud cais

Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.

Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.

Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol: canllaw i ymgeiswyr