EN
string(15) "ilo-opportunity"
< Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Lleoliad Marchnata

Lleoliad: Uganda Newid Hinsawdd a'r AmgylcheddDigidol ac AI
Funded by Welsh Government | Ariennir gan Lywodraeth Cymru

Mae hwn yn gyfle datblygu i dreulio 8 wythnos yn Uganda, yn cefnogi menter amgylcheddol gyda’ch arbenigedd ym meysydd cyfathrebu a marchnata, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol, sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ynghylch y sefydliad

Mae’r sefydliad nid-er-elw hwn wedi’i gofrestru ac wedi’i leoli yn Uganda, ac yn gweithredu yn rhanbarth Mynydd Elgon, a gyda chysylltiadau cryf â Chymru. Cafodd ei raglen plannu coed ei sefydlu o ganlyniad i’r ffaith bod angen mynd i’r afael â datgoedwigo difrifol, diraddio tir ac effeithiau newid hinsawdd, gyda’r manteision o leihau effeithiau newid hinsawdd, darparu cyflenwadau cynaliadwy o danwydd, lloches a bwyd, a lleddfu tlodi.

Ynghylch y rôl

Mae’r sefydliad yn canolbwyntio ei ymdrechion ar geisio cael adnoddau ychwanegol trwy weithgareddau codi arian. Un o’r prif adnodd i wella ymdrechion codi arian yw cael system gyfathrebu a marchnata bywiog. 

Disgwyliadau’r lleoliad yw creu negeseuon/mynegiannau cydlynol ynghylch ehangder gweithgareddau’r sefydliad, i’w ddefnyddio ar draws ei holl gyhoeddiadau, ynghyd â gwefan wedi’i diweddaru a’i gwella gyda negeseuon deniadol.

Amdanoch chi

Bydd gennych sgiliau a phrofiad yn y meysydd canlynol:

  • Marchnata digidol: Arbenigedd mewn cyfryngau cymdeithasol, optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), systemau rheoli cynnwys (CMS) ac offer dadansoddol
  • Creadigrwydd: Y gallu i ddatblygu cynnwys perswadiol
  • Meddwl strategol: Y gallu i alinio tactegau cyfathrebu gyda nodau busnes cyffredinol a thueddiadau’r farchnad
  • Sgiliau dadansoddol: Y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli data i hysbysu a gwella penderfyniadau marchnata

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.

Gwneud cais

Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.

Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.

Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol: canllaw i ymgeiswyr