EN
< Newyddion

BAFTS a’r Siarter Gwrth-hiliaeth: Astudiaeth Achos

Gwrth HiliaethMasnach Deg
BAFTS Logo

Cyfweliad gyda Lenshina Hines, Cadeirydd rhwydwaith masnach deg BAFTS y DU

Mae Lenshina Hines yn bartner yn Fair and Fabulous, siop fasnach deg yng Nghastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag ysgrifennydd grŵp Masnach Deg y dref leol, ac mae hi’n gweithio’n agos gyda Cymru Masnach Deg. Mae’r siop yn aelod o Rwydwaith masnach deg BAFTS y DU, rhwydwaith o siopau a chyflenwyr annibynnol sy’n ymroddedig i hyrwyddo manwerthu masnach deg yn y DU. Mae BAFTS ei hun yn aelod o Sefydliad Masnach Deg y Byd (WFTO).

Ym mis Mehefin 2020, roedd Lenshina yn rhwystredig oherwydd diffyg ymateb cyhoeddus BAFTS i’r mudiad Black Lives Matter (BLM) yn y DU, ac ysgrifennodd i ofyn iddynt ddilyn egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol sy’n arwain y mudiad masnach deg, a sefyll mewn undod gyda’r BLM mewn ymgyrchu dros gydraddoldeb.

Fe wnaeth Lenshina ddarganfod nad oedd BAFTS yn siarad allan ar faterion yr oeddent yn cytuno â nhw weithiau ac yn bersonol yn rhoi cefnogaeth iddynt, oherwydd bod y bwrdd yn ansicr o sut i symud ymlaen, a’u bod yn ofni adlais gan eu haelodau neu’r cyfryngau. Gwahoddwyd Lenshina i ymuno â’r bwrdd ac wedi hynny, daeth yn Gadeirydd BAFTS yn 2022.

Fodd bynnag, fel un o’r ychydig aelodau o’r gymuned (dim yn wyn) ar draws y byd, a’r aelod Du cyntaf erioed o’r Bwrdd, roedd Lenshina yn teimlo’r baich o yrru’r gwaith gwrth-hiliaeth. Gweithiodd gyda Hub Cymru Africa (HCA) a’r Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP) i gofrestru BAFTS i ddilyn y Siarter Gwrth-Hiliaeth newydd ei chyhoeddi. Meddai:

“Roedd cael cefnogaeth HCA yn golygu nad oeddwn i’n teimlo’n unig, ac yn gorfod gweithio ar fy mhen fy hun i ddarganfod sut i greu newid yn y sefydliad. Nawr, roedd gennyf gefnogaeth gan bobl/arbenigwyr sy’n deall y pwnc, a fframwaith clir”.

Ym mis Hydref 2022, fe wnaeth BAFTS gofrestru i ddilyn y Siarter; croesawodd Lenshina y cyflawniad ac meddai:

“Nawr rydyn ni [BAFTS] yn nodi digwyddiadau fel Mis Hanes Pobl Dduon Prydain, a Mis Hanes LHDTC+. Rydym wedi datblygu gweithdrefnau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer adolygu unrhyw negeseuon cyfryngau cymdeithasol a allai fod yn ddadleuol, sy’n ein galluogi i ddefnyddio ein llais a pheidio ag aros yn dawel allan o ofn.”

Mae aelodau Bwrdd BAFTS wedi ymuno â Chymuned Ymarfer Gwrth-Hiliaeth HCA ac mae Lenshina, fel cadeirydd BAFTS, wedi cydweithio â HCA a Cymru Masnach Deg i gadeirio trafodaeth banel ar-lein gan gyflenwyr masnach deg fel rhan o gyfres Ail-fframio’r Naratif HCA.

Mae BAFTS wedi parhau i rannu ei ddysgu gyda’i aelodau. Yng nghynhadledd BAFTS 2022 ym Machynlleth, rhoddodd HCA a SSAP ddarlith ar bwysigrwydd dewrder mewn undod byd-eang. Ar ben hynny, siaradodd BAFTS ac arweinydd cymuned Cymru Affrica Martha Musonza Holman â chynrychiolwyr am brofiadau menywod Du yng Nghymru yn ystod dyddiau cynnar y protestiadau Black Lives Matter.

Dewisodd Bwrdd BAFTS i ganolbwyntio ar Bwyntiau’r Siarter i ddechrau:

1. Rydym yn ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth. Mae’n broblem i bawb, nid baich un grŵp o bobl yn unig, ac mae dod â’r mater i ben yn fuddiol i bawb

8. Byddwn yn defnyddio iaith, technegau adrodd straeon, a lluniau priodol a meddylgar. Rydym yn cydnabod bod ganddynt ystyr, y gallant achosi niwed, a’u bod yn gallu atgyfnerthu hiliaeth

12. Byddwn yn ymrwymo i gynnwys ein partneriaid, ein bwrdd, ein gwirfoddolwyr a’n cynulleidfa ehangach yn ein gwaith mewn perthynas â’r siarter hon.

Roeddent yn teimlo’r angen i dynnu sylw at gyfrifoldeb y gymuned BAFTS i fynd i’r afael â hiliaeth, a bod iaith ac adrodd straeon yn elfennau allweddol o gael masnach deg yn iawn. Fel sefydliad rhwydwaith, roedd ganddynt gyfrifoldeb i gynnwys eu holl aelodau hefyd.

Er mwyn cyflawni’r nod hwn ymhellach, yn dilyn trafodaeth Bwrdd wedi’i hwyluso gan HCA ar weithredu’r Siarter Gwrth-Hiliaeth, gwahoddwyd HCA a SSAP eto i Gynhadledd BAFTS 2023. Cyflwynodd HCA weithdy i aelodau’r gynulleidfa ar sut i weithredu newidiadau i’r iaith a’r lluniau yr oeddent yn eu defnyddio i hyrwyddo masnach deg. Roedd y themâu yn cynnwys: 

  • cydsyniad ar sail gwybodaeth
  • niwed mewn pornograffiaeth tlodi
  • effaith grym deinamig wrth gasglu straeon, a 
  • stereoteipiau anymwybodol wrth rannu straeon.

Fe wnaeth mwyafrif llethol aelodau’r gynulleidfa ymrwymiadau i neilltuo gweithredoedd yn ystod y sesiwn, fel adolygu oedran y lluniau a’r straeon a rannwyd. Roedd adborth o’r gweithdy yn dangos newid mewn agwedd hefyd:

“Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy herio gan fy anwybodaeth fy hun ynghylch hiliaeth neu ddiffyg gweithredu yn ymwneud â gwrth-hiliaeth, wedi’i ysbrydoli gan gamau HCA i gefnogi sefydliadau. Byddaf yn gwneud ymdrech fwy ymwybodol i gymryd rhan weithredol mewn gwrth-hiliaeth.”

“Dysgais am yr holl adnoddau am ddiaspora, adrodd straeon a gwrth-hiliaeth ar wefan HCA.”

“Roeddwn i’n teimlo bod gen i lawer i’w ddysgu, gan fod hyn yn greiddiol i fy musnes.”

“Byddaf yn dysgu mwy am adrodd straeon yn effeithiol, yn wybodus ac yn feddylgar.”

“Fe wnes i ddysgu awgrymiadau gwych am sut mae ‘da’ yn edrych, fel y gallaf ddefnyddio’r rhain i fod hyd yn oed yn well am helpu yn y ffordd iawn.”

“Byddaf yn trosglwyddo’r hyn rydym wedi’i ddysgu i weddill y tîm, i sicrhau ein bod ni gyd yn ymwybodol o’r ffordd gyfrifol o ddefnyddio iaith a lluniau.”

Adroddwyd yn anffurfiol am effaith mwy hirdymor y gweithdy i Cymru Masnach Deg gan Tracy Mitchell o True Origin, oedd ddim yn gwybod am y cysylltiad rhwng HCA a Cymru Masnach Deg:

“Roedden nhw wedi bod i gynhadledd BAFTS ac wedi mynychu eich gweithdy ac yn meddwl ei fod yn ardderchog.  Roeddem yn diweddaru ein gilydd ar ein gwaith, a ‘dwi ddim yn credu eu bod yn sylweddoli pa mor gysylltiedig ydym, gan iddynt dynnu eu nodiadau o’ch gweithdy allan, dweud wrthyf yn fanwl amdano,  a sut y byddant yn ei weithredu ac yn meddwl am eu cyfathrebu o hyn ymlaen.

“Roedd yn hyfryd cael adborth, yn enwedig oherwydd na ofynnwyd amdano, roeddent jyst yn dweud wrth rywun am y pethau yr oeddent wedi’u gwneud yn ddiweddar ac yn amlwg, wedi cael eu bywiogi a’u cyffroi ganddynt.”

Fis Hydref diwethaf, fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon 2023, cyhoeddodd BAFTS y 3 pwynt Siarter nesaf mae’n bwriadu mynd i’r afael â nhw yn y flwyddyn i ddod mewn cylchlythyr arbennig i’r holl aelodau:

“Mae’r Mis Hanes Pobl Dduon yn nodi blwyddyn hefyd ers i ni gofrestru â’n 3 nod cyntaf o’r Siarter Gwrth-hiliaeth. Rydym wedi gwerthfawrogi’r her o’u harchwilio a derbyn hyfforddiant a chymorth gan HCA ar-lein ac yn y gynhadledd.

“Rydym yn falch o gyhoeddi’r tri nod nesaf rydym wedi eu dewis ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef:

4. Byddwn yn ymrwymo i ddatblygu ein dealltwriaeth ddyfnach ein hunain o faterion hiliaeth, a sut maen nhw’n effeithio ar ein ffordd o feddwl

5. Rydym yn sefydliad sy’n croesawu adborth beirniadol, gyda’r bwriad o ddysgu a gwella ein gwaith. Byddwn yn gweithredu heb fod yn amddiffynnol nac yn negyddol i’r rheini sy’n tynnu sylw at arferion hiliol neu drefedigaethol, ac yn creu prosesau atebolrwydd o fewn ein gwaith

11. Byddwn yn ystyried yr anghyfiawnderau byd-eang ehangach yn ein gwaith, ac yn ystyried effaith negyddol ein gweithredoedd ar yr hinsawdd a’r amgylchedd ac yn eu lliniaru, a chydnabod mai’r bobl sydd â’r ôl troed carbon isaf yw’r rheini sy’n teimlo’r effaith fwyaf

“Rydym yn edrych ymlaen at archwilio’r nodau hyn gyda’n gilydd a symud ymlaen gyda’n dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn hollol wrth-hiliol.”

Mae angen newid agweddau ac arferion. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i aelodau cymuned Cymru Affrica rannu dewrder Lenshina. Mae rhwystrau i ficro-elusennau yn y gymuned arwyddo’r Siarter Gwrth-hiliaeth, yn fwyaf nodedig, ymrwymiadau amser. Mae darpar gyfranogwyr yn dweud hefyd, eu bod yn teimlo nad ydyn nhw’n “gwneud digon eto” i allu ymrwymo’n gyhoeddus i’r siarter. Fodd bynnag, mae’r astudiaeth achos hon yn dangos bod llawer o sefydliadau sydd efallai ddim yn  credu bod y Siarter “ar eu cyfer” nhw, yn dal i elwa o drafod a myfyrio ar yr egwyddorion yn y siarter, a mynd i’r afael â phwyntiau unigol y siarter mewn darnau hylaw i wneud newidiadau effeithiol.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl