
Fel Pennaeth Dysgu Byd-eang yng Nghanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, rwyf wedi bod yn gweithio am amser hir ym maes Dinasyddiaeth Fyd-eang. Mae’r prosiectau dwi wedi bod yn rhan ohonynt wedi bod yn fawr, gan fy ngalluogi i archwilio popeth o dreftadaeth a theithio mewn amser, i’r pŵer o gael ffydd mewn gwneud pethau’n well. Fodd bynnag, un peth sy’n codi’n aml i mi ydy’r cwestiwn ‘Beth yn union ydy dinasyddiaeth fyd-eang?’ Roeddwn yn falch iawn o gael cyfle i esbonio mwy am fy ngwaith mewn pennod newydd o Gymru, Affrica a’r Byd, podlediad Hub Cymru Africa.
Yn y cyfweliad, rydym yn crynhoi hanes Dinasyddiaeth Fyd-eang. Rydym yn dechrau drwy sôn am wreiddiau’r fframwaith yn gynnar yn yr 20fed Ganrif, ac yn olrhain ei dwf hyd heddiw fel fframwaith dysgu pwysig yng Nghymru ac yn rhyngwladol, cyn trafod lle rydym yn ei weld yn mynd yn y dyfodol, i orffen.
“Mae dinasyddiaeth fyd-eang yn gymhleth, oherwydd mae’r byd yn newid bob amser, ac mae pobl yn newid bob amser. Felly, i ddeall y byd rydym yn byw ynddo go iawn, mae’n rhaid i ni fod yn edrych yn gyson, a gwrando a meddwl am sut mae’n berthnasol i ni.”
Rydym yn ceisio egluro hefyd, pam mai un pwnc sy’n cwmpasu popeth rhwng ein straeon personol a’n rhagfarnau, pam ein bod ni’n dechrau ac yn gorffen rhyfeloedd, sut mae helpu cymunedau yn ein caniatáu i helpu ein hunain, ac effaith esiamplau da.
“Mae materion byd-eang yn gymhleth dros ben. Mae’n gallu teimlo’n eithaf brawychus a llethol. Ac am wn i, mae fel bod dwy ochr i’r un geiniog. Mae gennych y syniad enfawr hwn o gymylau tywyll yn gorwedd dros y byd. Ond beth mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd, a ble mae dinasyddiaeth fyd-eang yn dod i mewn yn y sefyllfa honno yw, bod ar yr ochr bositif, yn wir, bod dyhead mawr am obaith.”
Yn ein podlediad, rydym yn archwilio sut mae’r dyhead hwnnw am obaith wedi tyfu’n raddol mewn byd sydd wedi bod yn newid yn gyson trwy’r 20fed a’r 21ain ganrif, y ffordd mae cymunedau wedi gweithio gyda’i gilydd i wneud y byd yn well, a’r rôl y gall pob un ohonom ei chwarae i lunio dyfodol disglair i bawb.
“I lawer o’r bobl sy’n gwrando yma, rwy’n credu bod cyfle gwych i geisio cymryd rhan yn yr antur a cheisio rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, rhoi cynnig ar rywbeth a fyddai’n beth positif i chi ei wneud heddiw. Peidiwch poeni am ‘fory, dim ond poeni am beth allwch chi wneud heddiw. Ac yn realistig, nid yw pob cam positif yn mynd i gael canlyniad enfawr, ond mae llawer i’w ddweud am ganiatáu i bethau dyfu dros amser. Rwy’n credu bod y pethau sy’n tyfu dros amser yn bethau sy’n parhau.”
Mae WCIA wedi addysgu dinasyddiaeth fyd-eang i ysgolion ers degawdau, ac mae ganddynt 60 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cyfnewid rhyngwladol. Maen nhw wedi datblygu rhwydweithiau cryf ar draws ysgolion drwy sawl prosiect partneriaeth Erasmus, eu gwaith dysgu byd-eang
Mae Amber yn gyfrifol am hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang gyda phobl ifanc ac ysgolion, ac mae hi’n gyfrifol am raglenni addysgol WCIA, ac am gefnogi ysgolion i greu cysylltiadau rhwng Cymru a’r byd.
Gallwch gysylltu gydag Amber i ddysgu mwy am ddod yn ddinesydd byd-eang neu am sut i gael eich grŵp ieuenctid neu ysgol i gymryd rhan, drwy anfon e-bost i: amberdemetrius@wcia.org.uk.
Gwrandewch ar bennod gyfan Cymru, Affrica a’r Byd ar eich hoff blatfform podlediad neu trwy wefan Hub Cymru Africa.