
Mae’r ymgyrchydd masnach deg ac un o fenywod du blaenllaw Cymru, Martha Musonza Holman, yn rhannu ei stori ragorol o wydnwch, gobaith a chydweithredu mewn pennod newydd o Cymru, Affrica a’r Byd, y podlediad gan Hub Cymru Africa.
Yn y cyfweliad, mae Martha yn trafod ei thaith o Zimbabwe i Gymru, dan erledigaeth o dan lywodraeth Mugabe, i adeiladu bywyd wedi’i ymroddi i fasnach deg, datblygu cynaliadwy, a grymuso menywod.
Ar ôl ffoi o Zimbabwe yn gynnar yn y 2000au, fe wnaeth Martha ymgartrefu yn y Fenni, lle sefydlodd yr elusen Love Zimbabwe. Ei chenhadaeth oedd adeiladu undod a chariad tuag at bobl Zimbabwe. Mae hi’n gwneud hyn trwy adeiladu cysylltiadau rhwng pobl yng Nghymru a Zimbabwe, a chefnogi menywod i adeiladu bywoliaethau cynaliadwy trwy fasnach deg.
“Fe wnes i ddiweddu fyny yn y carchar, cael fy nghuro, a doedd neb yn fodlon gwrando arnaf… fe wnaethon nhw hyd yn oed lladd fy nghi,” meddai Martha, wrth ddisgrifio’r erledigaeth a wynebodd fel athrawes a addysgodd ei myfyrwyr am realiti brwydrau ei gwlad.
Dechreuodd ei thaith i Gymru gyda gweithred syml o garedigrwydd, yn helpu ymwelydd o Gymru yr oedd ei blentyn wedi cael anaf. Arweiniodd y foment hon at gyfeillgarwch a fyddai’n ddiweddarach, yn rhoi llinell fywyd i Martha i ddianc rhag erledigaeth ac ailadeiladu ei bywyd.
“Doedden nhw’n methu credu fy mod i, dieithryn, wedi eu helpu nhw,” esboniodd. “Dyna sut y gwnaeth ein cyfeillgarwch ddechrau.”
O’r cyfeillgarwch hwnnw, sefydlwyd Love Zimbabwe, elusen a grëwyd o gydymdeimlad a dymuniad i weld pobl Zimbabwe, eu cymunedau a’r amgylchedd naturiol yn ffynnu unwaith eto.
“Mae Zimbabwe yn wlad sydd wedi’i rhannu,” meddai Martha. “Mae gennym bobl o Zimbabwe sydd yn dioddef ac yn stryglo. Ac mae gennym bobl sy’n filiwnyddion. Ond rydym angen cariad. Mae’r cariad hwnnw wedi diflannu. A dyna pam mai Love Zimbabwe ydy enw fy sefydliad i, oherwydd rydym angen gweld beth sy’n digwydd, a gweithredu.”
Drwy Love Zimbabwe, mae Martha yn gweithio gyda menywod mewn cymunedau gwledig i ddysgu sgiliau newydd, creu celf a chrefft, a chael annibyniaeth. Iddi hi, dydy masnach deg ddim ynghylch cynnyrch yn unig, ond ynghylch cyfiawnder, urddas, a gobaith.
Gallwch wrando ar stori lawn Martha yng Nghymru, Affrica a’r Byd ar eich hoff blatfform podlediad neu trwy wefan Hub Cymru Africa.
Cymru, Affrica a’r Byd yw podlediad Hub Cymru Africa, sy’n archwilio undod, dinasyddiaeth fyd-eang, a chyfrifoldeb byd-eang o safbwynt Cymreig.
Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sy’n cefnogi cymuned Cymru ac Affrica i gyfrannu at undod byd-eang a datblygu cynaliadwy.
Mae Love Zimbabwe yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad masnach deg yn y Fenni, sy’n gweithio i gefnogi cymunedau a grymuso merched yn Zimbabwe.
Ymholiadau’r Wasg:
Peter Frederick Gilbey
petergilbey@hubcymruafrica.wales