EN
< Newyddion

Julian Rosser yn cael ei benodi fel Pennaeth newydd Hub Cymru Africa

Julian Rosser speaking at the Global Solidarity Summit 2023 with a Hub Cymru Africa logo in the background.
Hub Cymru Africa / Nick Treharne

Mae Hub Cymru Africa wedi penodi Julian Rosser fel ei Bennaeth Partneriaeth newydd.

Mae Julian yn dechrau yn ei swydd o arwain Hub Cymru Africa, ar ôl bod yn gweithio a gwirfoddoli yn y trydydd sector am fwy na 35 mlynedd.

Yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, mae Julian yn gefnogwr ac ymgyrchydd brwd dros undod byd-eang, ac mae wedi gwirfoddoli a gweithio i sefydliadau sy’n cynnwys Ffrindiau’r Ddaear Cymru, Pwyllgor Argyfwng Trychinebau Cymru, Oxfam Cymru, a Cymru Masnach Deg. Yn ddiweddar, arweiniodd Julian dîm Rheolwyr Cymorth Datblygu Hub Cymru Africa i gefnogi cysylltiadau Cymru-Affrica a grwpiau eraill o Gymru sy’n gweithio dros undod byd-eang.

Mae Julian yn dechrau’r rôl hon ar adeg bwysig ar gyfer Partneriaeth Hub Cymru Africa. Wrth i’r sefydliad fynd i mewn i’w ail ddegawd, bydd Llywodraeth Cymru newydd yn bodoli’r flwyddyn nesaf, a chyd-destun rhyngwladol lle bydd gwledydd cyfoethog yn torri gwariant ar gymorth rhyngwladol a lle bydd undod byd-eang dan fygythiad.

Wrth groesawu ei benodiad, meddai Cadeirydd Hub Cymru Africa, Tom Baker:

“Mae’n bleser gennyf groesawu Julian i’r rôl Pennaeth Partneriaeth. Mae’n adnabyddus i lawer ar draws y sector. Bydd ei brofiad eang dros y deg mlynedd ar hugain diwethaf yn ei wneud yn arweinydd effeithiol, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn llwyddo, ac yn arwain y bartneriaeth ymlaen yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn.”

Wrth ymateb i’w benodiad, meddai Julian:

“Mae’n fraint bod wedi cael fy mhenodi’n bennaeth newydd Hub Cymru Africa. Rwyf wedi ymgyrchu dros ddatblygiad cynaliadwy a chydraddoldeb rhyngwladol am fwy na 35 mlynedd, ac wedi eu cefnogi, ac rwyf wedi mwynhau gweithio i Hub Cymru Africa yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel Uwch Reolwr Cymorth Datblygu.

“Rwy’n cael fy ysbrydoli bob dydd gan y bobl a’r sefydliadau gwych ac amrywiol sy’n ffurfio’r sector yng Nghymru, ac maen nhw’n creu argraff fawr arnaf. Rwy’n gyffrous i arwain y bartneriaeth a’r tîm i mewn i ail ddegawd Hub Cymru Africa, ac rwy’n gobeithio ei wneud hyd yn oed yn fwy llwyddiannus na’r cyntaf.”

Meddai Prif Weithredwr Panel Cynghori Is-Sahara, Fadhili Maghiya:

“Rwy’n falch dros ben fod Julian wedi cael ei benodi ar gyfer y rôl hon o fewn ein tîm wrth i Hub Cymru Africa fynd i mewn i’w ail ddegawd. Mae gan Julian lawer o brofiad o weithio gyda chymunedau ar draws Cymru i hyrwyddo undod byd-eang, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda ef yn fwy aml i wneud yr union bethau hynny.”

Nodiadau i olygyddion:

Mae Hub Cymru Africa yn bartneriaeth sy’n cynnwys Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), Cymru Masnach Deg, Panel Cynghori Is-Sahara a Phartneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru.

Mae Hub Cymru Africa yn sefydliad datblygu rhyngwladol ac undod byd-eang blaenllaw Cymru. Sefydlwyd Hub Cymru Africa ym mis Ebrill 2015 i ddod â gwaith ei bartneriaid at ei gilydd a chefnogi sefydliadau ar draws Cymru i adeiladu cysylltiadau a phrosiectau cynaliadwy mewn partneriaeth â sefydliadau yn Affrica ac ar draws y byd. Mae’n cefnogi grwpiau ac unigolion amrywiol a bywiog yng Ngymru – ymgyrchwyr masnach deg, grwpiau diaspora, staff y GIG, sefydliadau cymunedol a ffydd ac elusennau – i gyfrannu at ddatblygiad byd-eang sy’n gyfrifol ar lefel gymdeithasol.

Mae gwaith Hub Cymru Africa yn canolbwyntio’n bennaf ar iechyd, addysg, bywoliaeth a’r amgylchedd. Drwy godi ymwybyddiaeth, polisïau a hawliau, symudiad cymunedol, a mentora a chymorth datblygu, mae’n helpu’r sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyfrannu at y Nodau Datblygu Cynaliadwy drwy ddatblygiad rhyngwladol.

Mae Hub Cymru Africa yn cael ei ariannu drwy grantiau gan Raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru a Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Llywodraeth y DU.

Ar gyfer cyfweliadau yn Gymraeg neu’n Saesneg, cysylltwch â:

Peter Frederick Gilbey, Rheolwr Cyfathrebu
petergilbey@hubcymruafrica.wales
07495 008 927

Erthyglau Eraill

Gweld pob un