EN
< Newyddion

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Rhydian Witts / R Witts Photography LTD

Mewn cyfweliad dwys ar Bodlediad Cymru, Affrica a’r Byd, mae Dr Ahmed Alshantti, sydd yn wreiddiol o Gaza ac sydd yn awr, yn ymarfer yng Nghymru, yn disgrifio effeithiau personol ac effeithiau dynol go iawn y trychineb dyngarol sy’n datblygu yn Gaza, a’r gwaith sydd yn cael ei wneud i achub bywydau a chyflwyno gobaith.

Dechreuodd y cyfweliad gyda thaith Dr Alshantti o Gaza i Gymru. Gorffennodd ei hyfforddiant meddygol yn Gaza yn 2016, mewn amgylchiadau anodd dros ben.

“Roedd bywyd yn Gaza ar y pryd yn anodd iawn. Roedd cyfyngiad ar symudiadau, felly nid oedd cleifion a oedd angen triniaeth hanfodol yn gallu mynd allan i gael triniaeth. Dydy meddygon sydd eisiau cael hyfforddiant ddim yn gallu teithio dramor. Felly, roedd y system iechyd fwy neu lai dan warchae. Ond fe wnaeth hyn fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth i ddod o hyd i ffordd o fynd allan a chael yr wybodaeth a’r sgiliau hanfodol i ddod â nhw nôl i fy mamwlad.”

Fodd bynnag, trwy Gronfa Chevening, sydd yn cael ei noddi gan Lywodraeth y DU, roedd Dr Alshantti yn gallu teithio i Brifysgol Sheffield i astudio Gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus. Roedd hyd yn oed y weithred ddiniwed hon yn wynebu rhwystrau. Ar y pryd, nid oedd Llywodraeth Israel yn caniatáu i ddarpar fyfyrwyr adael Gaza i barhau â’u hastudiaethau dramor, felly roedd rhaid i Lywodraeth y DU lobio ar ran Dr Alshantti fel y gallai adael.

“Y foment honno, newidiodd fy mywyd. Ymunais â maes histopatholeg [a] gweithiais fel hyfforddai histopatholeg, sydd fwy neu lai, yn gweithio ym maes diagnosis canser yn Ysbyty Prifysgol Cymru. A bob dydd, rwy’n gweld pa mor bwysig ydy hyfforddiant a chael system iechyd sy’n gweithio, ac rwy’n meddwl bob amser gymaint y mae angen hyn yn Gaza.”

Mae’r sgwrs yn symud ymlaen at effaith y trychineb presennol yn Gaza ar weithwyr iechyd. Mae pob agwedd ar fywyd wedi dod yn hunllef i’r bobl sydd yn byw yno, ac mae anallu gweithwyr iechyd i ddarparu gofal sylfaenol i gleifion yn cael effaith. Mae marwolaeth famol wedi mwy na dyblu ers dechrau’r gwrthdaro presennol. Mae Dr Alshantti yn rhannu stori bersonol dorcalonnus am ei chwaer:

“Roedd hi 12 wythnos yn feichiog y llynedd. Yng nghanol y newyn, roedd hi’n mynd i’r strydoedd am ddiwrnodau heb bryd o fwyd iawn. Ac fe wnaeth hi gam-esgor oherwydd diffyg maeth.

“Ar hyn o bryd, mae hi’n feichiog eto, 20 wythnos yn feichiog. Ac mae’r newyn wedi taro eto. Nawr, mae’r meddygon wedi dweud wrthi fod angen iddi gymryd cyffuriau i deneuo’r gwaed i atal clotiau rhag ffurfio yn yr ysgyfaint. Mae dod o hyd i un pigiad yn amhosib. Ac os ydych hi’n dod o hyd i un, bydd yn costio mwy nag y gall unrhyw deulu ei fforddio.  A dychmygwch, heb y pigiad hwn, gallai golli ei bywyd neu ei babi.”

Mae hyn yn digwydd ar draws Gaza, ac mae’r effaith mae’n ei gael ar weithwyr iechyd proffesiynol yn ddwys. Mae Dr Alshantti yn disgrifio galwad ffôn diweddar gan gydweithiwr yn Gaza:

“Roedd yn teimlo’n hollol ddesbrad; y ffaith bod wir  angen iddo drin a helpu ei gleifion, ond ei fod yn methu, oherwydd nad yw’r adnoddau ar gael.”

Mae ei ffrind yn cael trafferth dod o hyd i fwyd ar ei gyfer ef ei hun hyd yn oed, ac mae’n gorfod llosgi plastig i goginio bwyd ar gyfer ei blant.

Mae stori Dr Alshantti yn cymryd tro hyd yn oed mwy tywyll pan fydd yn adrodd y stori o golli ei chwaer a’i theulu i ymosodiad awyr a ddinistriodd eu cartref. Goroesodd eu merch 13 oed, sydd bellach ar ei phen ei hun.

“Beth yw ei euogrwydd? Beth yw ei euogrwydd ar gyfer 7fed Hydref? Felly, mae hi wedi cael ei gadael ar ei phen ei hun gyda’i llosgiadau a’i hanafiadau i ddioddef yn y byd hwn.”

Wrth droi at ba gamau y gellir eu cymryd, a pha waith y mae Dr Alshantti yn ei wneud, mae’n siarad am weithio gyda Choleg Meddygol Prifysgol Caerdydd sydd wedi ffurfio partneriaeth gyda Choleg Meddygol Prifysgol Al Azhar yn Gaza, i hyfforddi myfyrwyr meddygol sydd wedi eu dadleoli. Mae’n gweithio gyda grwpiau i helpu i gadw’r unig ysgol sydd ar ôl yng ngogledd Gaza, Ysgol Al-Tamayuz yn Jabalia, ar agor, fel y gall plant barhau i dderbyn addysg sylfaenol, er wedi’i darfu ychydig. 

Mae’r sgwrs yn troi tuag at ba bethau ymarferol y gall pobl yng Nghymru ac mewn llefydd eraill eu gwneud i ddangos cydweithrediad ac i gymryd camau ystyrlon i helpu.

“Os ydych chi eisiau cefnogi Gaza, mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn rhoi arian i’r sefydliadau… Siaradwch gyda Phalestiniaid. Nid yw edrych ar y newyddion yn oddefol heb wneud dim yn ddigon.  Mae athrawon yma yng Nghymru yn gallu cysylltu gydag athrawon yn Gaza. Mae meddygon yn gallu cysylltu â meddygon. Mae hyn wedi digwydd yn barod. Ond mae angen i hyn ddigwydd ym mhob agwedd ar fywyd.

“Mae Palestiniaid angen arian, yn ogystal ag undod.”

Gwrandewch ar y podlediad
Dr Ahmed Alshantti speaking to a Palestinian event outside Cardiff Castle
Dr Ahmed Alshantti
Dr Ahmed Alshantti speaking to a Palestinian event outside Cardiff Castle
Dr Ahmed Alshantti
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Rhydian Witts / R Witts Photography LTD

Llun gan Rhydian Witts/R Witts Photography LTD

Gallwch wrando ar y bennod lawn o’r podlediad trwy glicio ar y ddolen isod: https://hubcymruafrica.cymru/podlediad.

Ar ôl y cyfweliad, cyhoeddodd yr IPC newyn yn swyddogol yn Ninas Gaza ac yn y cymdogaethau o’i chwmpas ar 22 Awst 2025.

I wrando ar Dr Alshantti mewn person, gallwch gofrestru ar gyfer Cynhadledd Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru ar 8 Medi yma: https://hubcymruafrica.cymru/digwyddiad/ghpc2025 

Erthyglau Eraill

Gweld pob un