EN
< Newyddion

Mynd i’r afael â rolau rhywedd, un stori ar y tro: Gyrrwr Tryc Benywaidd, 22 oed o Nigeria

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod
Ademola Omolade

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan yr IRU (International Road Transport Union) yn 2022, dim ond 3% o yrwyr lorïau yn Ewrop a’r byd sy’n fenywod (Arolwg). Mae’r diwydiant trycio wedi tyfu i ddenu mwy o weithwyr benywaidd, ond mae hyn yn dal i gael ei gategoreiddio fel galwedigaeth sy’n gofyn am welliant mewn perthynas â’r gymhareb rhywedd, cynrychiolaeth a chynhwysiant (Freightwaves, 2022).

“Pan dwi’n gyrru, dwi’n teimlo mor dda! Mae’n dal i ddod â llawer o hapusrwydd i mi! Mae pawb yn cael sioc bob amser, oherwydd nid yw’n gyffredin iawn yma. “

Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar stori Ademola Omolade, gyrrwr lori benywaidd 22 oed o Nigeria, a gytunodd i gymryd rhan mewn cyfweliad byr i rannu ei stori. 

Mae Ademola yn dod o deulu a chymuned sydd â disgwyliadau penodol i fenywod, yn enwedig o ran galwedigaethau a gyrfaoedd. Mynegodd Ademola rwystredigaeth o gael ei chyfyngu i swyddi oedd wedi cael eu dewis iddi ymlaen llaw, a oedd naill ai’n trin gwallt neu’n teilwra. Ond fe newidiodd hyn pan aeth rhywun roedd hi’n ei hadnabod â hi at yrrwr lori, gyda’r gobaith y byddai’n cael awgrymiadau ar ddysgu sut i yrru cerbydau cyffredin. Fodd bynnag, fe adawodd yn gyffrous, gyda’r dyhead i yrru tryciau cymalog mawr un diwrnod. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, cwblhaodd Ademola ei hyfforddiant.

Mae data gan Technext yn datgelu bod y rhan fwyaf o bobl yn Nigeria yn credu bod dynion yn yrwyr gwell, gyda dim ond 12.5% yn teimlo bod yn well ganddynt yrwyr benywaidd.  Roedd Ademola yn gyflym i gefnogi hyn, drwy ddweud “Dydy hi ddim yn hawdd iawn i fod yn yrrwr lori benywaidd yn Nigeria, nid hyd yn oed yn yrrwr benywaidd!”. Fel merch ifanc, dywedodd wrthyf mai ei heriau mwyaf oedd diogelwch, yn benodol gyda dynion ifanc mewn ardaloedd anghysbell; Cyfeiriodd atynt fel ‘touts’ neu ‘area boys’. Soniodd pan fydd hi ffwrdd yn y tryc, mai’r ‘area boys’ ifanc hyn sydd fwyaf tebygol o achosi niwed, fel cam-drin geiriol neu gorfforol.  Pwysleisiodd Ademola hefyd, oherwydd ffyrdd cul, wedi’u difrodi, ei bod yn poeni’n arbennig am broblemau gyda’i lori, neu gyda’i lori’n torri lawr, yn enwedig pan fydd hi’n mynd ar deithiau hir a allai fynd â hi ar ei phen ei hun ac oddi cartref am hyd at 4 diwrnod.

“Bobman dwi’n mynd, mae pobl jyst yn stopio, yn syllu ac yn edrych arnai!”

Yn ystod ei thair blynedd yn gyrru tryciau, dywedodd Ademola mai dim ond un gyrrwr lori benywaidd arall mae hi wedi dod ar ei thraws, ac mae hi wedi dod i ddeall pa mor brin yw presenoldeb menywod yn niwydiant tryciau Nigeria. Ar ôl cael ei thrwydded yrru, fe wnaeth hi wneud yn siŵr hefyd ei bod hi’n dysgu sut i newid teiars ac yn dysgu sgiliau mecaneg gyffredinol ar gyfer lorïau. Mae hyn yn gwneud iddi deimlo’n fwy hyderus ac annibynnol, pan fydd hi’n gyrru tryciau am bellteroedd hir.  Soniodd Ademola am enghraifft arall o sut mae hi’n cadw’n ddiogel ar y ffordd; pan fydd hi’n teithio’n bell iawn, mae hi weithiau’n mynd gyda ffrind, sy’n cytuno i fynd gyda hi fel teithiwr yn ei lori. Ond er gwaethaf y ddau fesur hyn, dywedodd Ademola nad yw hi’n teimlo’n hollol ddiogel, ond mai dyma yw ei ffordd hi o wneud y sector hwn sy’n cael ei dominyddu gan ddynion yn fwy cyfforddus iddi hi. 

Yr un peth y gwnaeth Ademola yn siŵr o’i gyfathrebu oedd y pŵer roedd hi’n teimlo yn gyrru ei lori 22 teiar, meddai:

“Bob tro dwi’n mynd allan o’r lori a dwi’n gweld hyd y lori, dwi’n dal i synnu mod i’n gyrru’r lori! Mi fydda i’n meddwl ‘ti’n ferch fach, ai ti oedd yr un wnaeth yrru’r lori yma?’ “.

Parhaodd i rannu mai ei gobaith yw bod yn ysbrydoliaeth i fenywod ifanc yn Nigeria, ac agor cwmni tryciau a fydd yn cyflogi menywod ac yn dod â mwy o gydraddoldeb i’r diwydiant yn Nigeria. 

Yn y ras i ail-lunio rolau a disgwyliadau rhywedd ar gyfandir Affrica ac ar draws y byd, mae menywod fel Ademola yn enghreifftiau o’r unigolion sy’n chwarae rhan enfawr i geisio herio a newid cymdeithas.

Gallwch dilyn Ademola ar Instagram yma.

Erthygl/blog ar y cyd/ rhwng Hub Cymru Affrica a SSAP.
Gan Isimbi Sebageni, Swyddog Diaspora a Chynhwysiant.

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl
Dr Ahmed Alshantti speaking at a Palestinian event in Cardiff with crowds and flags in the background
Datganiadau i'r Wasg

Meddyg yn galw am weithredu ar y trychineb iechyd cyhoeddus a dyngarol sy’n datblygu yn Gaza

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Carwyn Howell Jones, who served as First Minister of Wales and Leader of Welsh Labour from 2009 to 2018 appears on the podcast Wales Africa and the World.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Cyn Brif Weinidog yn cefnogi Rhaglen Cymru ac Affrica mewn cyfweliad eang ei gwmpas

Polisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl