EN
< Newyddion

Y Camsyniad Ynghylch Cartrefi Plant: Rhoi plant a theuluoedd yn gyntaf

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd
Mother and daughter in Nigeria
Muhammad-Taha Ibrahim

Ar hyn o bryd, mae dros 5.4 miliwn o blant yn byw mewn cartrefi plant ar draws y byd, ac mae gan o leiaf 80% ohonynt un rhiant.

Yn rhifyn mis Chwefror o’r Podlediad Cymru, Affrica a’r Byd gan Hub Cymru Africa, rydym yn edrych ar sut y gall cartrefi plant ddod yn llefydd lle mae cam-drin yn digwydd, ac yn llefydd sydd yn achosi trawma gydol oes i filiynau, a beth sy’n cael ei wneud i’w cau.

Mae Mark Riley yn gweithio i Hope and Homes for Children, elusen sydd wedi bod yn gweithio i geisio stopio defnyddio cartrefi plant ar draws y byd ers dechrau’r 1990au

Mae’r bennod yn dechrau gyda chlip o fideo’r ymgyrch Hope and Homes for Children:

“Petasech chi’n gallu dweud unrhyw beth wrth y bobl a roddodd chi yn y cartref plant hwnnw, beth fuasech chi’n dweud?”

“Buaswn yn dweud wrthyn nhw eu bod nhw wedi dwyn fy mhlentyndod cyfan.”

I lawer o bobl sy’n gwrando ar y podlediad neu sy’n darllen yr erthygl hon, mae cartrefi plant wedi cael eu hystyried ers blynyddoedd lawer fel hafan ddiogel werthfawr ac angenrheidiol i blant bregus. Gofynnais i Mark: beth ydy’r broblem? Mae Mark yn egluro tarddiadau trefedigaethol, gyda’r pwrpas o reoli plant:  

“Mae cartrefi plant yn ffenomen eithaf newydd, rili… Felly os ydych chi’n meddwl am lawer o gartrefi plant yn Affrica, maen nhw wedi creu eu ffordd i gymdeithasau gyda’r ymerodraeth drefedigaethol… yn America, roedd y cartrefi plant cyntaf yn gartref i blant brodorol, i’w gorllewino, i’w stripio o’u diwylliant, o’u teuluoedd, eu gorllewino nhw [ac] eu newid i Gristnogaeth.”

Mark Riley from Hope and Homes for Children speaking on the Wales, Africa and the World Podcast.
Hub Cymru Africa / Rob Norman HayMan Media

Mae’n mynd ymlaen i esbonio bod corff cynyddol o ymchwil a thystiolaeth i gefnogi’r syniad nad yw cartrefi plant yn llefydd da. Mae’n esbonio:

Mae cael eich gwahanu oddi wrth eich teulu yn ddigon trawmatig, ond mae plant sy’n tyfu fyny mewn cartrefi plant, dydyn nhw ddim yn cael y gofal y buasent yn ei gael gan ofalwr. Dydy eu hanghenion unigol ddim yn cael eu bodloni. Maen nhw’n wynebu heriau wrth addasu i fywyd y tu allan i’r cartref plant pan maen nhw’n gadael.”

Mae’r diffyg gofal a sylw hwn yn creu anhwylderau ymlyniad mewn plant, ac maen nhw’n cario’r rhain mewn i fyd oedolion.

Efallai y bydd yn synnu darllenwyr a gwrandawyr i ddysgu bod dros 80% o blant sy’n byw mewn cartrefi plant ar hyn o bryd yn dal i fod gyda o leiaf un rhiant byw, ffaith sy’n naturiol, yn peri dryswch.  Gofynnais i Mark pam y byddai plentyn yn cael ei wahanu oddi wrth riant a’i roi mewn cartref plant.

“Weithiau, mae bodolaeth cartref plant mewn cymuned, sydd yn gymuned dlawd, yn ffactor i roi plant mewn cartref plant. Felly, yn Affrica, mae llawer o Affricanwyr yn dibynnu ar ysgolion preswyl i addysgu plant. Yn aml, mae cartref plant yn cael ei weld fel ysgol breswyl am ddim. Ni fyddai rhieni’n deall y niwed mae cael eu gwahanu oddi wrth eu teulu a’u cymuned yn ei gael ar blant.”

Mae’r sgwrs yn symud ymlaen i ganolbwyntio ar y niwed y mae plant yn ei brofi mewn sefydliadau:

“Yn gyntaf, nid yw cartrefi plant yn cynnig y gofal teuluol y mae pob plentyn ei angen; y cariad a’r gofal a’r diogelwch, ac i dyfu i fyny gyda’u rhieni neu eu mam-gu a’u tad-cu, eu brodyr a’u chwiorydd. Felly, mae tynnu plentyn o’r sefyllfa honno… [ac] eu rhoi mewn cartref plant, dydy plant ddim yn cael y gofal a’r diogelwch maen nhw eu hangen.”

Mae ymchwil helaeth wedi cael ei wneud ar y pwnc hwn. Mae Mark yn egluro bod tystiolaeth yn dangos bod plant sy’n gadael sefydliadau yn wynebu cyfraddau uwch o hunanladdiad, diffyg cyflogaeth, unigedd cymdeithasol ac yn torri’r gyfraith. Mae’n egluro:

“Felly, rydym yn dysgu llawer iawn gan blant sydd wedi gadael cartrefi plant, … mae’r bobl hynny sydd â phrofiad bywyd o dyfu i fyny mewn cartref plant, yn dweud wrthym fod ffordd well. Ni ddylswn i fod wedi cael fy rhoi yno. Cefais fy ngham-drin, fy esgeuluso. Roedd tramorwyr yn dod ac roeddwn i’n arfer gorfod canu a dawnsio i’r tramorwyr hyn ac yna,  buasent yn mynd, a buaswn i’n cael fy nharo.”

Mae’n amlwg nad ydy cartrefi plant yn gallu darparu’r gofal a’r sylw mae pob plentyn ei angen a’n ei haeddu.

Er gwaethaf y dystiolaeth hon a hanesion o lygaid y ffynnon, mae llawer o bobl yn dal i gredu bod cartrefi plant yn syniad da.  Mae Mark yn dadlau bod y cyfryngau yn chwarae rhan mewn llunio’r ddealltwriaeth gymdeithasol hon:

“Rhan o’r broblem ydy’r cyfryngau… Rydym yn dal i addoli pobl sy’n cefnogi cartrefi plant fel rhyw fath o arwr, heb gydnabod y difrod mae’r cartref plant neu’r sefydliad maen nhw’n ei gefnogi’n ei wneud.”

Mae’n pwyntio at raglenni fel Masaka Kids: A Rhythm Within ar Netflix, a gynhyrchwyd gan gwmni cynhyrchu’r Tywysog Harri,  Archibald Productions, fel rhaglen sy’n cyfrannu at y naratif niweidiol hwn. Meddai Mark:

“Os ydych chi’n edrych ar y ddogfen gyda llygaid beirniadol, … fe welwch ei bod yn eithaf niweidiol i’r plant. Maen nhw wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Yn aml, maen nhw’n cael eu cyfleu fel eu bod yn achub y plant hyn.

“Ond y straeon a ddangosodd y Plant Masaka ..roedd un dyn, roedd yn byw gyda’i fam-gu, ond roeddent yn eithaf tlawd… Felly fe wnaethon nhw ei recriwtio i’r sefydliad. A nawr, mae’n siarad am sut mae’n dawnsio ac yn canu ar draws y byd. Wel, mae’r fam-gu dal yn dlawd. Mae gan y gymuned broblemau mawr iawn o hyd, [ac erbyn hyn], mae wedi cael ei wahanu oddi wrth ei famgu.”

Mae materion gwahanu plant a sefydliadu yn gymhleth; mae tlodi a’i broblemau cysylltiedig yn chwarae rôl sylweddol. Mae Mark yn cofio ei amser yn byw yn Uganda:

Fe wnes i gwrdd  â chymaint o rieni, cymaint o famau, a oedd yn meddwl eu bod yn rhoi eu plentyn mewn cartref plant i gael help dros y tymor byr yn unig … i’w bwydo a’u haddysgu, ac roeddent yn meddwl mai dyma oedd y peth iawn i’w wneud oherwydd eu bod yn profi argyfwng tymor byr.

“…ac mae cartrefi plant bob amser yn barod i dderbyn plant, dydy cartref plant gwag ddim yn gwneud unrhyw arian.”

Mae trin plant tlawd, du a brown fel gwrthrychau yn foesegol anghywir ac yn aml, mae ymddygiad pobl mewn gwledydd incwm uchel fel Cymru, gweddill Ewrop neu Ogledd America yn cynnal y broblem. Mae Mark yn cofio ei ddiwrnod cyntaf yn gweithio i Llywodraeth Uganda:

“Roedd menyw y tu allan i swyddfa’r comisiynydd plant… yn chwilio am eu plant… Fe wnaethant roi eu plant mewn sefydliad ac yna, dywedodd y sefydliad fod y plentyn wedi mynd.

“Buasem yn eu darganfod nhw, roedden nhw wedi cael eu mabwysiadu yn y UD, a buasech yn gweld y blogiau hyn o deuluoedd yn dweud oh, fe wnaethom fabwysiadu’r plentyn amddifad hwn o Affrica oherwydd bod y fam wedi marw, ac rwy’n eistedd ar draws o’r fam.”

Mae hwn yn brofiad trawmatig i’r fam, ond yn dorcalonnus i’r plentyn hefyd. Maen nhw’n colli eu diwylliant, eu cysylltiadau a’u perthnasoedd, ac yn aml, maen nhw’n cael eu gorfodi i fabwysiadu crefydd newydd.

Yn ffodus, nid yw’r rhan fwyaf o sefydliadau sydd ag enwau da fel Save the Children, UNICEF, Hope and Homes for Children, Lumos, Oxfam a Christian Aid bellach yn cefnogi’r sefydliadau hyn, ac nid ydynt wedi gwneud hynny ers peth amser.

Mae Tara Winkler o Awstralia yn eiriolwr cryf yn erbyn cartrefi plant, ac mae hi wedi rhoi sgwrs TEDx wych am ei thaith, o gyfrannu at y niwed y mae cartrefi plant yn ei wneud, i helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd a rhoi plant yn gyntaf.

Mae Mark yn cofio stori debyg o’i amser yn Uganda yn cyfarfod â Lucy Buck, sylfaenydd Child’s I Foundation, a oedd â breuddwyd o agor cartref plant i helpu plant. Dysgodd drwy brofiad a thrwy weithio gyda Mark, dysgodd na fydd cartrefi plant byth yn gallu bod yr ateb, a dechreuodd droi’r sefydliad i fynd i’r afael â’r achosion gwreiddiol ynghylch pam bod plant yn diweddu fyny mewn cartrefi plant yn y lle cyntaf. 

Nawr, maen nhw’n hyfforddi gofalwyr maeth ac yn cydweithio â Llywodraeth Uganda i helpu i adeiladu strwythurau cymunedol ar gyfer diogelu plant, ac yn gweithio ochr yn ochr gyda chartrefi plant sy’n dymuno ail-newid y ffordd maen nhw’n rhedeg i fod yn ganolfannau cymunedol. Mae Mark yn ychwanegu:

“Mae gen i lawr iawn  o barch ati. Fe wnaeth hi ei gau i lawr a thrawsnewidiodd Child’s I Foundation i fod yn sefydliad sydd nawr yn helpu i atal gwahanu, gosod plant mewn gofal maeth, hyfforddi rhieni.”

Rhan bwysig o’r trawsnewid mae Hope and Homes for Children a’u mudiad eisiau ei weld gyda chartrefi plant ydy sicrhau cynaliadwyedd a sefydlogrwydd. Gall cyllid cymorth a datblygu fod yn aml yn ateb tymor byr neu am gyfnod penodol, newid o flwyddyn i flwyddyn, a chael ei gyfeirio tuag at flaenoriaethau’r rhoddwyr yn hytrach na’r bobl maen nhw’n honni eu helpu.

Mae aflonyddwch mawr wedi bod yn y sector cymorth yn ddiweddar. Cafodd USAID ei ddifrodi bron yn llwyr gan weinyddiaeth Trump. Mae cyllideb cymorth y DU wedi cael ei haneru gan y Prif Weinidog Keir Starmer, ac mae toriadau tebyg ar draws rhannau o’r G7 yn digwydd.

Mae’r podlediad hwn eisoes wedi trafod effaith hyn ar rannau mwyaf tlawd y byd, yn enwedig ar iechyd y cyhoedd. Ond gofynnais i Mark p’un a allai hefyd fod yn gyfle i wneud pethau’n wahanol:

“Rwy’n credu y gall y ddau beth yma fod yn wir ar yr un pryd, y dylai cronfeydd datblygu a chymorth ganolbwyntio r greu mwy o gynaliadwyedd.

“Roeddwn i’n gweithio ar ychydig o brosiectau USAID pan dorrodd Trump USAID yn llwyr dros nos… Felly yn India, roedd prosiect a oedd yn dod ag arbenigwyr anabledd o fewn India ac yn dod ag arbenigwyr diwygio gofal i sicrhau bod plant ag anableddau yn cael eu blaenoriaethu… fel nad oeddent yn cael eu gwthio i’r sefydliadau ofnadwy hyn lle nad ydynt yn derbyn unrhyw ofal… Cafodd hynny ei dorri dros nos.

“A dwi ddim yn credu y gallwn i fyth fod yn hapus gyda 4.8 miliwn o blant a fydd yn marw oherwydd toriadau USAID erbyn 2030… Ni ddylsem fod yn hapus gyda’r 30 miliwn o bobl a fydd yn cael eu heffeithio’n negyddol.

“A yw’n rhoi rhywfaint o gyfleoedd i ni? Ydy, oherwydd does dim arian yn y sector neu does dim cymaint o arian yn y sector. Rwy’n credu bod yn rhaid i ni edrych ar wneud a helpu llywodraethau i fod yn gyfrifol am beth sy’n digwydd o fewn eu ffiniau eu hunain gyda phlant, a sicrhau eu bod yn cadw at Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Wrth i’r cyfweliad ddod i ben, yn ymwybodol bod y pwnc hwn yn cynnwys llawer o wirioneddau trwm ond hefyd straeon ysbrydoledig o newid, gofynnais i Mark beth sy’n rhoi gobaith iddo:

“Beth sy’n rhoi gobaith imi yw gweld y bobl ifanc sydd wedi tyfu fyny mewn sefydliadau yn dechrau dod o hyd i’w lleisiau; ac mae’n rhaid i ni roi’r llwyfan hwnnw iddyn nhw.

“Mae rhoi llais i’r bobl ifanc hyn, rhai ohonynt ddim mor ifanc rhagor, yn union lle’r ydym angen bod.

”Mae hwn yn argyfwng. Ac rwy’n meddwl, os allwn ni ddysgu unrhyw beth o’r podlediad hwn, y peth hwnnw yw i bobl ddangos ychydig mwy o frwdfrydedd mewn darganfod mwy o wybodaeth, cymryd rhan a gwrando ar lais y rhai sy’n gadael gofal. Dyna di’r peth rili, rili pwysig.”

Dolen pwysig

Hope and Homes for Children

Better Care Network

Decolonising tourism and development: from orphanage tourism to community empowerment in Cambodia

The shocking truth about orphanages

Why we need to end the era of orphanages by Tara Winkler

Transform Alliance Africa

Cambodian Children’s Trust

Erthyglau Eraill

Gweld pob un
A child, standing on top of a hill, holding a Welsh flag looking over the coastline.
Blog

Cenedl Noddfa: Undod, lloches a Chroeso Cymreig

Gwrth HiliaethAmrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Sticky note from a WCIA event with a child's writing on it saying: "After today I'm feeling heard and seen".
Blog, Newyddion

Beth ydy dinasyddiaeth fyd-eang?

Gweld yr erthygl
Blog, Newyddion

O Khartoum i Gaerdydd: Israa Mohammed a Rhyfel Cartref Swdan

Hawliau DynolPolisi ac Ymgyrchoedd Gweld yr erthygl
Martha Musonza Holman speaking to Wales, Africa and the World at HayMan Media studio in Newport.
Newyddion, Datganiadau i'r Wasg

Gobaith, Masnach Deg a Chariad: Taith Martha o Zimbabwe i Gymru

Gwrth HiliaethNewid Hinsawdd a'r AmgylcheddMasnach DegHawliau DynolBywoliaethau Cynaliadwy Gweld yr erthygl