EN
Iechyd

Aelodau’r Pwyllgor

Sefydliad: Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru Dyddiad cau: Gwe 4 Gorff, 2025

Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru (GHPC) ydy pwyllgor Cymru o fewn yr elusen Partneriaethau Iechyd Byd-eang, sydd â gweledigaeth o fyd lle mae gan bawb fynediad i iechyd. Pwrpas GHPC ydy hyrwyddo a sicrhau iechyd da, drwy sefydlu partneriaethau rhwng gweithwyr iechyd yng Nghymru a gwledydd incwm isel a chanolig (LMIC), yn enwedig yn Affrica.

Nid fydd un biliwn o bobl byth yn gweld gweithwyr iechyd cymwys yn eu bywydau. Rydym yn gweithio i newid hynny, trwy weithio mewn partneriaeth i gryfhau systemau iechyd ac adeiladu gweithlu iechyd mewn gwledydd LMIC.

Am bwy mae GHPC yn edrych?

Mae rhywun sydd ag angerdd am geisio gwella iechyd byd-eang, ac ymrwymiad at yr achos yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Er y byddai cael profiad o’r system iechyd yng Nghymru, a meddu ar wybodaeth am ofal iechyd mewn gwledydd incwm isel a chanolig yn fantais, nid ydy’r rhain yn hanfodol o ystyried y sgiliau amrywiol ymhlith ein pwyllgor ehangach. Byddai rhywun sydd â’r awydd i adeiladu rhwydweithiau mewn cymunedau amrywiol a chynyddu dealltwriaeth o sut mae hil a diwylliant yn effeithio ar weithlu iechyd y diaspora yn cael eu croesawu.

Mae GHPC yn awyddus i ddenu pobl sydd â’r profiad a’r sgiliau i arwain y pwyllgor i gyflawni ei gyfrifoldebau strategol a rheoleiddiol.

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol byr sy’n cynnwys manylion perthnasol am eich cefndir, sgiliau a’ch diddordebau fel atodiadau drwy e-bost i enquiries@hubcymruafrica.wales. Os ydych chi eisiau dysgu mwy am y rôl, cysylltwch â’r cadeirydd presennol, Dr Julia Terry, drwy e-bostio j.terry@swansea.ac.uk i drefnu sgwrs anffurfiol. Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd â diddordeb yn y rôl hon, mae croeso i chi anfon yr wybodaeth atynt.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar ddydd Gwener 4ydd Gorffennaf 2025. Mae’r cyfweliadau’n cynllunio i gael eu cynnal ar-lein tuag at ddiwedd Gorffennaf.

Disgrifiad Swydd [DOCX] Disgrifiad Swydd [PDF]