EN
string(7) "vacancy"
< Cyfleoedd yn y Sector Newid Hinsawdd a'r AmgylcheddDigidol ac AI

Lleoliad Dadansoddwr Data a GIS yn Uganda

Sefydliad: Llywodraeth Cymru

Mae hwn yn gyfle datblygu, lle byddwch yn treulio 8 wythnos yn Uganda, yn cefnogi menter amgylcheddol gyda’ch arbenigedd GIS a data, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ynghylch y sefydliad

Mae’r sefydliad nid-er-elw hwn wedi’i gofrestru ac wedi’i leoli yn Uganda, ac yn gweithredu yn rhanbarth Mynydd Elgon, a gyda chysylltiadau cryf â Chymru. Cafodd ei raglen plannu coed ei sefydlu o ganlyniad i’r ffaith bod angen mynd i’r afael â datgoedwigo difrifol, diraddio tir ac effeithiau newid hinsawdd, gyda’r manteision o leihau effeithiau newid hinsawdd, darparu cyflenwadau cynaliadwy o danwydd, lloches a bwyd, a lleddfu tlodi.

Ynghylch y rôl

Mae’r sefydliad wedi datblygu system rheoli data holistaidd ar gyfer y rhaglen ac mae wedi bod yn casglu data ers 2022; nid yw’r holl ddata wedi cael eu dadansoddi eto er budd y prosiect / gofynion adrodd.

Bydd eich rôl yn cynnwys:

  • Cynnal dadansoddiad gofodol ac ystadegol: Defnyddio meddalwedd GIS i berfformio ymholiadau gofodol cymhleth, modelu a dadansoddiad ystadegol i adnabod tueddiadau, patrymau a chysylltiadau mewn data daearyddol. Dadansoddi setiau data nad ydynt yn ofodol i greu darlun dadansoddol cynhwysfawr
  • Mapio a delweddu: Dylunio a chynhyrchu dangosfyrddau rhyngweithiol, mapiau a siartiau clir, o ansawdd uchel, i gyfathrebu gwybodaeth ofodol yn effeithiol i randdeiliaid technegol/ ddim yn dechnegol.
  • Adroddiadau technegol a thasgau: creu adroddiadau data daearyddol yn defnyddio delweddu data; glanhau a mireinio data i sicrhau fformatio data priodol; a datblygu cymwysiadau ac offer mapio ar gyfer defnyddio data’n effeithlon.

Y canlyniadau disgwyliedig o’r lleoliad yw:

  • Mewnwelediadau sydd yn cael eu gyrru gan ddata: mewnwelediadau o ddata gofodol / ddim yn ofodol y gellir eu defnyddio i gefnogi penderfyniadau strategol
  • Gwell delweddu: cynhyrchu mapiau rhyngweithiol a delweddau o ansawdd uchel i gyfathrebu gwybodaeth ddaearyddol gymhleth, gan nodi’n glir lefel y cyfraniad ar gyfer y gwahanol ymyriadau
  • Gwell effeithiolrwydd: prosesau awtomataidd ac offer wedi’u teilwra i symleiddio trin data, a fyddai’n arbed amser ac adnoddau.

Amdanoch chi

Byddwch yn hyfedr mewn meddalwedd GIS fel ArcGIS a QGIS, yn arbenigo mewn systemau rheoli cronfa ddata fel SQL a PostGIS, gyda phrofiad mewn defnyddio offer delweddu data fel Power BI a Tableau, a chyda sgiliau sgriptio mewn ieithoedd fel Python ac R.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.

Gwneud cais

Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle unigryw i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.

Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.

Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd.Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol: canllaw i ymgeiswyr