
Mae hwn yn gyfle datblygu, lle byddwch yn treulio 8 wythnos yn Uganda, yn cefnogi canolfan blant gyda’ch arbenigedd meddygol a maethol, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r ganolfan blant wedi’i lleoli ym Mbale yn Nwyrain Uganda, gyda 30 o staff amser llawn a 51 o blant yn mynychu’r ganolfan ddydd bob dydd, 30 o blant yn cael bwyd y tu allan i’r ganolfan yn y gymuned, a 60 o blant o dan addysg plant yn y blynyddoedd cynnar. Mae’r ganolfan blant yn fan diogel, lle mae plant o dan 3 mlwydd oed yn cael mynediad at brydau bwyd maethlon, gwasanaethau meddygol, chwarae a ffisiotherapi, yn ogystal â sesiynau dysgu blynyddoedd cynnar sy’n hyrwyddo eu datblygiad iach. Tra bod y plant yn y ganolfan ddydd, mae’r mamau’n cael y cyfle i gael mynediad at waith, sydd yn ei dro, yn galluogi iddynt edrych ar ôl eu teuluoedd mewn ffordd gynaliadwy.
Yn ychwanegol at y ganolfan ddydd, mae’r ganolfan yn cefnogi teuluoedd gydag ystod o raglenni fel hyfforddiant i greu incwm, grwpiau cynilo, cwnsela a chefnogaeth ar gyfer pobl sydd wedi goddef cam-drin domestig. Mae’n gweithio’n agos gyda’r uned camfaethiad yn yr ysbyty atgyfeirio rhanbarthol, i ddarparu pryd nos i bob plentyn sydd yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, yn ogystal â chefnogi plant unigol ym Mbale sy’n cael trafferth gyda chamfaethiad acíwt difrifol.
Prif waith y ganolfan ydy gwella iechyd plant trwy ddarparu gofal meddygol a rhoi bwyd maethol iddynt. Bydd y lleoliad yn cynnwys hyfforddi nyrsys lleol i ofalu am y plant.
Gall gweithgareddau’r lleoliad gynnwys:
Byddwch yn nyrs neu’n faethegydd sy’n gyfarwydd â iechyd a datblygiad plant.
I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.
Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle unigryw i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.
Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.
Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Ni fyddem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar unrhyw adeg. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.