
Mae hwn yn gyfle datblygu, i dreulio 8 wythnos yn Lesotho, yn cefnogi ysbyty gyda’ch harbenigedd seiciatrig, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r lleoliad mewn ysbyty sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl, ac yn darparu gofal seicolegol a chefnogaeth i unigolion sydd ag anhwylderau iechyd meddwl. Mae’n cynnig gwasanaethau ar gyfer cleifion mewnol ac allanol, ac yn chwarae rôl allweddol mewn gofal iechyd meddwl yn Lesotho.
Mae’r wlad wedi dioddef o brinder seicolegwyr yn ddiweddar, sydd wedi gadael bwlch mewn gwybodaeth wrth reoli salwch seicolegol. Trwy’r lleoliad hwn, byddai’r ysbyty yn hoffi gwella ei gwybodaeth am reoli afiechydon seicolegol, gan gynnwys dulliau newydd. Buasent hefyd yn gwerthfawrogi arweiniad ar sut i gynnwys ymchwil yn y sefydliad.
Byddwch yn seicolegydd profiadol gyda sgiliau rhyngbersonol da ac yn frwdfrydig i ddysgu diwylliant gwahanol.
I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.
Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle unigryw i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.
Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.
Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd.Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.