
Mae Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle unigryw i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.
Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith mewn tair gwlad sy’n wahanol iawn i’w gilydd, sef Uganda, Lesotho a Namibia.
Mae’r tair gwlad yn wahanol iawn i’w gilydd ac felly’n cynnig profiadau gwahanol.
Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu.
Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau sy’n dod o Affrica.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru Cymru ac Affrica LLYW.CYMRU neu e-bostiwch CymruacAffrica@llyw.cymru.