EN
string(7) "vacancy"
< Cyfleoedd yn y Sector

Rheolwr Cymorth Datblygu

Sefydliad: Hub Cymru Africa Dyddiad cau: Dydd Sul 31 Mai, 2026
  • Cyflogwr: Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP)
  • Teitl y Swydd: Rheolwr Cymorth Datblygu
  • Lleoliad: Cymru. Bydd opsiynau gweithio o bell, hybrid a hyblyg yn cael eu hystyried
  • Oriau 22.5 awr yr wythnos
  • Cyflog: £34,434.00 y flwyddyn pro rata (Gwirioneddol £20,660.40 y flwyddyn ar sail 22.5 awr yr wythnos)
  • Contract: Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027, gyda’r posibilrwydd o ymestyn yn dibynnu ar gyllid)
  • Dyddiad cau: 23:59 BST, Dydd Sul 31 Mai 2026.
  • Dyddiad Cyfweld: Dydd Iau 11 Mehefin 2026

Os oes gennych ddealltwriaeth gryf o faterion cyfoes yn Affrica a phrofiad o gefnogi gweithredu yn y gymuned dros newid, yna dylech ystyried ymuno â’n tîm.

Ynghylch Hub Cymru Africa

Partneriaeth ydy Hub Cymru Africa (HCA) a sefydlwyd yn 2015, sy’n cynnwys Cymru Masnach Deg, Cymru Global, Panel Cynghori Is-Sahara a Phartneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru. Gyda’n gilydd, rydym yn cyflwyno elfennau allweddol o raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru, ynghyd â gwaith datblygu rhyngwladol arall ar draws Cymru, wedi’i seilio ar yr egwyddorion o undod byd‑eang a phartneriaeth. Mae Hub Cymru Africa yn cael ei letya gan Banel Cynghori Is‑Sahara, ac yn cefnogi sefydliadau cymdeithas sifil, mentrau dan arweiniad y diaspora, a grwpiau cymunedol sy’n gweithio i adeiladu dyfodol mwy teg a mwy cynaliadwy rhwng Cymru, Affrica a thu hwnt.

Ynghylch y Rôl

Rydym yn cryfhau’r capasiti ac yn gwella ansawdd grwpiau a sefydliadau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith undod rhyngwladol yng Nghymru. Rydym yn cefnogi sector datblygu rhyngwladol cydlynus a bywiog i Gymru.

Rydym yn recriwtio Rheolwr Cymorth Datblygu i weithio fel rhan o’r tîm ar weithgareddau cymorth datblygu, mentora a hyfforddi Hub Cymru Africa ar draws Cymru. Byddwch yn sicrhau bod unigolion a grwpiau o fewn sector Cymru ac Affrica yn cael mynediad at raglen o hyfforddiant, dysgu a rhannu gwybodaeth, gan hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth ac arferion gwrth-hiliol.

Byddwch yn rhan o dîm o Reolwyr Cymorth Datblygu rhan-amser, yn ogystal ag Uwch Reolwr Cymorth Datblygu, sy’n gweithio ar draws Cymru. Mae cyfrifoldebau arwain penodol yn cael eu dyrannu o fewn y rolau hyn.

Rydym yn dîm hyblyg a chefnogol, gyda swyddfa yng nghanol Caerdydd. Gellir lleoli’r swydd hon yn unrhyw le yng Nghymru, er y bydd disgwyl i chi deithio weithiau ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.

Dim yn siŵr os ydy’r rôl hon yn iawn i chi? Os hoffech gael sgwrs gyda rheolwr y swydd, Pennaeth HCA, neu gydag un o’r Rheolwyr Cymorth Datblygu eraill yn y tîm, anfonwch e-bost at enquiries@hubcymruafrica.wales i drefnu amser.

Rydym yn croesawu ceisiadau’n arbennig, gan aelodau o gymunedau diaspora Affricanaidd yng Nghymru a hefyd, gan gymunedau eraill sydd yn cael eu tangynrychioli yn y sector ar hyn o bryd.

Bydd trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys rhannu swydd, wythnos pedwar diwrnod, neu oriau cywasgedig yn cael eu hystyried.

I ymgeisio

  • I wneud cais am y rôl, ewch i’n gwefan: wales/opportunities neu i ssap.org.uk
  • Dylech anfon ffurflen gais wedi’i chwblhau i humanresources@ssap.org.uk erbyn 2359pm, dydd Sul 31 Mai 2026.
  • Ni fydd CVs yn unig yn cael eu hystyried. Mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais fel rhan o’r broses.
  • Dyddiad cyfweld: Dydd Iau 11 Mehefin 2026.
Disgrifiad Swydd [PDF] Ffurflen Gais [DOCX]