EN
string(7) "vacancy"
< Cyfleoedd yn y Sector

Trysorydd

Sefydliad: Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
WCIA Logo

Rydym yn recriwtio ar gyfer y swydd Trysorydd ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr, gan y bydd ein Trysorydd presennol yn ymddiswyddo ddiwedd mis Mawrth 2026.

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwr sydd â chefndir ym maes cyllid a/neu gyfrifeg, yn ddelfrydol, gyda phrofiad yn y sector elusennol, a fydd yn gweithio gyda’r Bwrdd Ymddiriedolwyr a’r Rheolwyr drwy gadw golwg ar gyllid y sefydliad, sicrhau hyfywedd ariannol, cynghori ac arwain ar ofynion ariannol ac arferion gorau, a darparu cyngor, cymorth a gwybodaeth i Ymddiriedolwyr ar eu cyfrifoldebau o ran gofalu am gyllid.

Y Rôl Gyffredinol

Monitro gweinyddiaeth ariannol yr elusen, a chyflwyno adroddiad i fwrdd yr ymddiriedolwyr yn rheolaidd ar ei statws iechyd ariannol, yn unol ag arfer gorau, a chydymffurfio â’r ddogfen lywodraethu a gofynion cyfreithiol, i roi hyder a gwybodaeth i’r bwrdd i wneud penderfyniadau strategol yn well.

Dyma’ch cyfle i ymuno â sefydliad sy’n feiddgar o ran gweithredu, gyda chalon dosturiol, ac sy’n ymrwymedig i alluogi pobl Cymru i lunio byd gwell. Byddwch yn rhan o’n taith i greu cymuned fyd-eang o obaith, cysylltiad a gweithredu.

Ceisio