EN
string(7) "vacancy"
< Cyfleoedd yn y Sector Newid Hinsawdd a'r AmgylcheddAddysg a sgiliauCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod

Trysorydd

Sefydliad: CAENDON

Ynghylch y sefydliad

Mae CAENDON yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy a gwella cymunedau yn y DU ac Affrica Is-Sahara. Mae wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru.

Ynghylch y rôl

Mae gan CAENDON angen brys am drysorydd (sydd angen bod yn ymddiriedolwr), neu am weinyddwr ariannol.

Prif gyfrifoldebau:

  • Cadw cofnodion ariannol
  • Monitro trafodion banc
  • Cymeradwyo rhyddhau arian
  • Cynhyrchu datganiadau ariannol blynyddol
  • Helpu rheolwyr prosiect i gadw cyfrifon prosiect

Mae’r rôl yn wirfoddol ac yn ddi-dâl.

Amdanoch chi

Bydd gennych y sgiliau neu’r profiadau canlynol:

  • Gradd bagloriaeth neu uwch neu’n gweithio ym maes Cyfrifeg neu gyda chefndir blaenorol fel trysorydd
  • Da gyda rhifau
  • Cyfarwydd gyda rhaglenni Microsoft fel Word, Excel, PowerPoint
  • Chwaraewr tîm
  •  Byddai cefndir mewn marchnata yn ddefnyddiol ond nid yw’n hanfodol

Mae’r elusen wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru ond gellir gwneud y rôl hon o bell. Mae’n rhaid i chi fyw yn y DU, ac yng Nghymru os yn bosib.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, e-bostiwch info@caendon.org

Gwneud cais