Dewisol – o gartref neu yn y swyddfa yn Windsor Place, Caerdydd (gellir trafod)
6 awr yr wythnos am 3 mis (fel arfer un diwrnod 6 awr, neu dau ddiwrnod 3 awr) yn dechrau ym mis Gorffenaf neu Awst, gyda’r posibilrwydd o ymestyn y lleoliad gwirfoddoli.
Bydd y gwirfoddolwr yn helpu i gynllunio a rhedeg Pythefnos Masnach Deg 2026. Mae’r Bythefnos Masnach Deg yn gyfnod i godi ymwybyddiaeth o’r angen am ffordd fwy teg o fasnachu, dangos cefnogaeth i ffermwyr a chynhyrchwyr ar draws y byd, a dathlu ymrwymiad Cymru fel Cenedl Masnach Deg gyntaf y byd. Mae Cymru Masnach Deg yn cydlynu’r Bythefnos Masnach Deg yng Nghymru bob blwyddyn, ac yn trefnu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth, yn sicrhau sylw yn y cyfryngau, ac yn cefnogi grwpiau cymunedol lleol ar draws Cymru.
Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost i enquiries@hubcymruafrica.wales heddiw, a rhoi ‘Gwirfoddoli’ yn y llinell bwnc.