
Mae Fair and Fabulous yn chwilio am wirfoddolwr i hyrwyddo Masnach Deg drwy helpu i staffio eu siop ar ddydd Sadwrn ac i helpu gyda’u siop ar-lein.
Siop Fasnach Deg annibynnol ydy Fair and Fabulous, sydd hefyd yn gwerthu cynnyrch drwy siop ar-lein. Rydym yn aelodau gweithgar o BAFTS Fair Trade Network UK. Rydym yn gweithio’n agos gyda Cymru Masnach Deg, ac yn rhedeg Grŵp Cymunedol Masnach Deg Castell Newydd Emlyn.
Mae Fair and Fabulous wedi’i leoli yng Nghastell Newydd Emlyn, yng nghanol Dyffryn hardd Teifi yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru. Mae’n ardal sy’n meithrin cysylltiadau cymunedol agos yn naturiol, ond rydym yn credu y dylai’r cysylltiadau hyn ymestyn yn fyd-eang yn ogystal ag yn lleol. Drwy Fasnach Deg, ein nod yw darparu incwm i bobl mewn cymunedau bach mewn sawl rhan o’r byd – a chreu cysylltiadau o bentref i bentref er mwyn adeiladu byd tecach. Prif bwrpas ein gwaith ydy darparu cyfleoedd a chyflog teg i grefftwyr yn y cymunedau mwyafrif byd-eang.
Bydd y gwirfoddolwr yn gweithio yn y siop ar ddydd Sadwrn. Fel rhan o’r rôl o ddelio gyda chwsmeriaid, bydd angen rhannu’r straeon y tu ôl i’r cynnyrch a hyrwyddo egwyddorion Masnach Deg. Byddwch yn helpu i ddylunio arddangosfeydd yn y siop ac yn y ffenestr, a gallwch hefyd gael y cyfle i dynnu lluniau o gynnyrch, helpu gyda ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol, diweddaru’r siop ar-lein a chefnogi ymgyrchoedd Masnach Deg.
Byddwch yn gwirfoddoli yn y siop yng Nghastell Newydd Emlyn. Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i deithio i ddigwyddiadau a stondinau y tu allan i’r siop. Rydym angen gwirfoddolwr i weithio ar ddydd Sadwrn. Mae’r siop ar agor rhwng 10yb a 5yp.
Y rhinwedd mwyaf pwysig ydy rhywun sydd ag angerdd dros Fasnach Deg – gallwn ddysgu’r ffeithiau, ond mae angen ichi gredu’n gryf mewn cyfiawnder masnach. Byddwch yn gyfathrebwr da, sy’n mwynhau siarad â phobl, ac yn rhywun sydd yn barod i chwilio am dasgau i’w gwneud pan fo’r siop yn dawel. Mae hefyd yn bwysig bod gennych synnwyr digrifwch da, a’ch bod chi’n barod i wneud pethau ychydig yn wirion weithiau i hyrwyddo Masnach Deg.
Byddai llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a byddai gallu siarad Cymraeg yn ased mawr i ni.
Byddwch yn ennill gwybodaeth ymarferol werthfawr am Fasnach Deg, a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer unrhyw rôl yn y sector undod byd-eang. Byddwch hefyd yn cael profiad o redeg busnes, cyrchu cynnyrch, hybu cynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol ac o ddefnyddio llwyfan e-fasnach. Byddwch yn derbyn gostyngiad o 15% ar unrhyw gynnyrch rydych chi’n ei brynu o’r siop.
Os hoffech gymryd rhan, anfonwch e-bost atom heddiw i’r cyfeiriad enquiries@hubcymruafrica.wales, gyda’r gair “Gwirfoddoli” yn y llinell bwnc.