Digwyddiad ar-lein gan Share Our Story (#SOS) i arddangos cyflawniadau ac uchelgeisiau pobl ag anableddau yng Nghymru ac Affrica. Yn adrodd straeon ac yn sôn am brofiadau o’r flwyddyn 2025 gyfan.
Bydd y digwyddiad yn archwilio materion anabledd presennol yn ymwneud â datblygiad cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru ac Affrica. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan drafodaeth dan arweiniad panel o siaradwyr, sy’n siarad am beth mae eu grŵp wedi’i gyflawni’n lleol yn ystod 2025.
Yn ogystal, bydd cyflwyniad yn edrych ar beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r erchyllterau a’r ymyriadau â hawliau dynol sydd yn cael eu hwynebu gan bobl ag albinedd mewn rhai rhannau o Affrica.
Rydych yn cael eich gwahodd i ymuno â ni, boed yn ystyried eich hun yn anabl ai peidio. Dewch i ddysgu rhywbeth am beth mae’r gymuned anabl wedi bod yn ei wneud yng Nghymru ac Affrica.
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl ag Anableddau (IDPD) wedi bod yn cael ei ddathlu bob blwyddyn am 33 mlynedd. Mae’n gyfnod pan rydym yn tynnu sylw at gyflawniadau ac uchelgeisiau cymunedau pobl anabl gartref ac ar draws y byd. Fel arfer, mae’r diwrnod hwn yn cael ei ddathlu ar 3 Rhagfyr, a thema 2025 ydy:
“Adeiladu cymdeithasau cynhwysol o ran anabledd er mwyn hyrwyddo cynnydd cymdeithasol”
Share Our Story (#SOS) yw menter sy’n deillio o Gymuned Cymru ac Affrica, sydd eisiau dod â phobl ag anableddau at ei gilydd a thrafod eu profiadau bywyd, er mwyn hyrwyddo cynnydd a chynhwysiant.
Ers cael ei sefydlu ym mis Mawrth 2022, mae Grŵp WhatsApp #SOS wedi rhannu dros 200 o straeon a thrafodaethau gyda chyfranogwyr o 11 gwlad Affricanaidd, yn ogystal ag o Gymru. Yna, mae’r canfyddiadau sydd yn cael eu dwyn i’n sylw trwy ein trafodaethau yn cael eu defnyddio i hyrwyddo datblygiad cynhwysol ar gyfer pobl ag anableddau trwy’r cyfryngau cymdeithasol, drwy fynychu cynadleddau, a thrwy ddiwrnodau codi ymwybyddiaeth.
Mae #SOS wedi dewis cynnal ei digwyddiad IDPD ar y 10fed o Ragfyr, er mwyn peidio ag ymyrryd gyda dathliadau lleol a chenedlaethol yng Nghymru, Affrica, ac ymhellach. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, trwy Hub Cymru Africa (HCA).
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch y digwyddiad neu ynghylch Share Our Story (#SOS), anfonwch e-bost i shareourstoryinfo@gmail.com.