Ydych chi wedi arwyddo’r Siarter Gwrth-Hiliaeth ond dim yn siŵr lle i ddechrau?
Neu ydych chi wedi bod yn gweithio trwy bwyntiau’r Siarter ond yn ansicr beth mae hynny’n ei olygu i’ch sefydliad?
Ydych chi wedi gwneud cynnydd a gyda profiad y gall eraill ei ddysgu ohono ar eu taith eu hunain?
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i bartneriaethau gyfarwyddo eu hunain gyda deuddeg pwynt y Siarter, adolygu eu cynnydd, a chlywed am gynnydd a heriau pobl eraill.
Bydd Lenshina Hines, aelod bwrdd BAFTS (The British Association of Fair Trade Shops) yn ymuno â ni i siarad am ei phrofiadau o weithio gyda’r Siarter, a sut mae’r dysgu hwnnw wedi llywio ffordd BAFTS o weithio.
Bydd cyfle i drafod mewn grwpiau bach ac adlewyrchu.
Bydd Hub Cymru Africa yn rhannu adnoddau a’r camau nesaf ar gyfer rhaglen o gefnogaeth yn seiliedig ar eich anghenion a’ch adborth.
Rydym yn croesawu cyfranogiad gan bartneriaethau rhwng Cymru ac Affrica, a thu hwnt, i gael persbectifau, heriau, ac i gefnogi’r Gymuned Undod Byd-eang i weithredu’r siarter.
Os hoffech gael mynediad i adnoddau i’ch helpu chi i weithredu’r Siarter, cliciwch yma – Pecyn Cymorth Siarter Gwrth-Hiliaeth.