Mae’r Digwyddiad Dysgu ar y Cyd hwn yn cynnig cyfle i aelodau o gymuned Cymru ac Affrica i archwilio sut y gall yr ymgyrch The Big Give a’i ymgyrchoedd ariannu cyfatebol weithredu fel adnodd pwerus ar gyfer codi arian ar-lein ar gyfer elusennau yng Nghymru.
Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn clywed gan sefydliadau sydd wedi cymryd rhan yn llwyddiannus yn Her Nadolig flynyddol ymgyrch The Big Give ac mewn ymgyrchoedd eraill.
Bydd y digwyddiad yn darparu cyflwyniad i’r ymgyrch, ac yn tynnu sylw at y manteision, yr heriau a’r risgiau posibl o’i ddefnyddio fel platfform codi arian. Bydd siaradwyr yn rhannu mewnwelediadau gwerthfawr hefyd ynghylch pam bod cymryd rhan yn yr ymgyrch The Big Give yn werth yr ymdrech, sut mae wedi effeithio’n gadarnhaol ar eu sefydliadau, ac ar y canlyniadau pwysig i’r rhai sy’n ystyried cymryd rhan mewn ymgyrchoedd yn y dyfodol.
Bydd Nick Christoforou, cyn ymddiriedolwr gyda Dolen Ffermio a Janet Lowore o Bees for Development, yn rhannu eu profiadau personol, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i lywio’r broses a gwneud y mwyaf o effeithiolrwydd yr ymgyrch. Byddwn yn clywed hefyd gan Tabitha Ndiaye o Sefydliad Waterloo am eu persbectif fel Pencampwr Cyllido yn Her Nadolig y Big Give.
Ymunwch â ni i ddysgu o astudiaethau achos go iawn ac i gael dealltwriaeth ddyfnach o sut y gall yr ymgyrch The Big Give helpu i wella ymdrechion codi arian eich elusen.
Mae Nick yn angerddol am ddarparu’r platfform maen nhw’n ei haeddu i’r syniadau a’r sefydliadau sy’n gwneud ein byd yn lle gwell.
Mae Nick yn Bartner Sefydlu Neo – ymgynghoriaeth strategol a chreadigol ar gyfer y sefydliadau arloesol sy’n gwneud ein byd yn lle gwell, ac mae’r ymgynghoriaeth wedi cael ei ardystio o dan y cynllun B Corps.
Mae’n ymddiriedolwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) hefyd, sy’n ysbrydoli pobl i ddysgu a gweithredu ar faterion byd-eang i helpu i greu byd tecach a mwy heddychlon.
Roedd Nick yn ymddiriedolwr Dolen Ffermio gynt – elusen fechan yng nghanolbarth Cymru sy’n gweithio’n agos gyda chymunedau Uganda mewn perthynas â ffermio cynaliadwy a hyfforddiant sgiliau.
Mae Janet Lowore yn Gyfarwyddwr Rhaglenni yn Bees for Development, ac mae hi wedi bod yn ynghlwm â gwahanol ddulliau codi arian gyda’r sefydliad ers blynyddoedd lawer. Mae Janet yn arwain ar ddylunio ein prosiectau gyda’n sefydliadau partner, ac maen nhw’n cael eu dylunio bob amser yn unol â’r anghenion sydd yn cael eu mynegi gan y gwenynwyr rydym yn eu cefnogi. Mae Janet yn goruchwylio prosiectau datblygu cadw gwenyn yn Ethiopia, Ghana, Malawi, Uganda a Zimbabwe.
Dechreuodd Bees for Development yn fach gyda Her Nadolig ymgyrch The Big Give dros ddeng mlynedd yn ôl, ac maen nhw wedi cynyddu eu targedau codi arian flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ar ôl rhywfaint o broblemau cychwynnol, maen nhw bellach yn gwerthfawrogi The Big Give fel partner codi arian pwysig a defnyddiol.
Mae cefndir Tabitha mewn sŵoleg, ble y buodd am ddegawd fwy neu lai, yn astudio ymddygiad anifeiliaid ar draws llawer o ardaloedd anghysbell yn Affrica, America ac Asia. Dechreuodd weithio yn Sefydliad Waterloo ddeng mlynedd yn ôl, yn darparu cymorth ymchwil i ddechrau i’r Amgylchedd a Rhaglenni Datblygu’r Byd, cyn symud ymlaen i weithio yn ei rôl bresennol fel Rheolwr Cronfa Datblygu’r Byd ar gyfer portffolios WASH a Maeth y Sefydliad. Fel rhan o’r swydd hon, mae hi’n arwain partneriaeth Sefydliad Waterloo gydag ymgyrch The Big Give – mae hon wedi bod yn berthynas barhaol, gyda TWF yn camu i mewn fel Pencampwr Cyllido yn Her Nadolig The Big Give bob blwyddyn ers 2011.