EN

Bil Sofraniaeth Uganda

Goblygiadau ac ystyriaethau ar gyfer Cyrff Anllywodraethol Rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn y DU

Hawliau DynolPolisi ac YmgyrchoeddTrafodaeth Panel Digwyddiad ar-lein Zoom

Nod y drafodaeth banel hon ydy dod â Chyrff Anllywodraethol Rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn y DU ac sy’n gweithio yn Uganda at ei gilydd, ynghyd â’u partneriaid lleol, er mwyn deall goblygiadau’r Bil Sofraniaeth a basiwyd yn ddiweddar (2026) yn well, ac i ystyried eu rôl wrth symud ymlaen.

Yn ystod y sesiwn, byddwn yn archwilio:

  • Sut y gall sefydliadau yn y DU barhau i gefnogi partneriaid yn Uganda mewn ffyrdd sydd ddim yn eu rhoi mewn perygl
  • Beth mae undod ystyrlon yn ei olygu i Gyrff Anllywodraethol Rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yn y DU yn y cyd-destun hwn
  • Safbwyntiau arweinwyr cymdeithas sifil Uganda eu hunain — gan fod rhaid cydnabod bod unrhyw ddealltwriaeth o’r sefyllfa hon yn gorfod cael eu seilio ar leisiau ac arweinyddiaeth leol

Mae hwn yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Hub Cymru Africa, Rhwydwaith Elusennau Datblygu Rhyngwladol Bach (SIDCN), Rhwydwaith Datblygu Rhyngwladol De Orllewin Lloegr (SWIDN), Cynghrair Datblygu Rhyngwladol yr Alban, CADA (Clymblaid Asiantaethau Cymorth a Datblygu Gogledd Iwerddon) a Bond.

Noder: oherwydd sensitifrwydd y sesiwn, ni fydd yn cael ei recordio. Fodd bynnag, byddwn yn rhannu crynodeb o’r cyfarfod a’r prif bwyntiau trafod o dan Reolau Tŷ Chatham, a’u rhannu gyda phawb sydd wedi cofrestru.

Siaradwyr:

–  Dr Irene Dawa, Arweinydd Llwyfan Cenedlaethol yn Uganda, The First Humanitarian Network

– Edward Mutebi, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr, Lets Walk Uganda

– Eshban Kwesiga, Global Fund for Community Foundations, Uganda

Cofrestru