Mae SWIDN, Hub Cymru Africa a Hope and Homes for Children, yn eich gwahodd i ddigwyddiad ar-lein cydweithredol, agored sydd yn canolbwyntio ar ddarparu gofal i blant sydd wedi’u hymyleiddio. Bydd y digwyddiad hwn, sydd wedi’i ddylunio i gysylltu a chefnogi elusennau a rhoddwyr yn y DU sy’n gweithio gyda phlant sy’n wynebu risg ar lefel rhyngwladol, yn rhannu adnoddau arfer da ac yn archwilio sut y gall cymdeithas sifil gymryd rhan yn ymgyrch fyd-eang Llywodraeth y DU ar gyfer gofal teulu.
Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Tramor David Lammy AS, ynghyd â’r actor Gwyddelig Barry Keoghan, ymgyrch sawl blwyddyn sy’n eiriol dros symud i ffwrdd o ddarparu gofal sefydliadol (e.e. cartrefi plant amddifaid) a chynnig i blant symud i fod dan ofal teulu, sy’n rhoi pwyslais ar gariad, sefydlogrwydd, a diogelu. Mae’r fenter hon, sydd yn cael ei chefnogi gan y llywodraeth, yn cynnig fframwaith i elusennau a rhoddwyr sydd wedi’u lleoli yn y DU ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol, ac yn cyfeirio at arferion gorau ar gyfer ymyriadau sy’n blaenoriaethu hawl plentyn i dyfu i fyny mewn amgylchedd teulu diogel, cariadus.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar-lein yn dadansoddi beth mae ymgyrch Llywodraeth y DU yn ei olygu ar gyfer elusennau, rhoddwyr a gweithwyr datblygu rhyngwladol, a bydd yn cynnwys straeon gan y rhai sydd â phrofiad bywyd, a chymorth ymarferol a hygyrch i gefnogi taith eich sefydliad.
Boed yn dechrau meddwl am symud i ffwrdd o ddefnyddio cartrefi plant amddifaid, neu yn gweithio yn y maes amddiffyn plant yn barod, ymunwch â ni i ddysgu, cysylltu, a helpu i adeiladu dyfodol lle mae pob plentyn yn tyfu i fyny o dan ofal teulu.