EN

Codi Arian Grant i Ddechreuwyr

Digwyddiad Dysgu ar y Cyd Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru

Mae codi arian drwy grantiau yn gallu helpu i gynyddu incwm eich sefydliad yn sylweddol, ond mae’n gallu bod yn frawychus pan fyddwch ar ddechrau eich taith codi arian. 

O gael eich cynllun prosiect yn barod a dod o hyd i gyllidwyr, i wneud cais a chynnal perthnasoedd, ymunwch â ni a magu hyder wrth i ni fynd trwy rywfaint o elfennau allweddol o godi arian grant, a’ch cyfeirio at offer ac adnoddau defnyddiol. 

Bydd y sesiwn yn cynnwys astudiaethau achos gan aelodau o gymuned undod byd-eang Cymru hefyd, sydd wedi cymryd y cam hwnnw’n llwyddiannus. Bydd Deana Owen, Friends of Monze a Geoff Lloyd, PONT yn rhannu eu profiad o weithio gyda sefydliadau rhoi grantiau.

Dr Geoff Lloyd

Mae Dr Geoff Lloyd yn feddyg teulu ym Mhontypridd. Yn ei flynyddoedd cynnar, bu’n gweithio dramor yn Ethiopia, Saudi Arabia a Nepal, a daeth i ddeall  yn y pen draw, bod hen fodel meddygon y Gorllewin sy’n rheoli’r gwasanaethau iechyd mewn gwledydd incwm isel a chanolig wedi dyddio.

Ar ôl cwblhau Diploma mewn Meddygaeth Drofannol ym 1989, roedd Dr Lloyd yn deall bod mynediad at ofal iechyd sylfaenol yn brif flaenoriaeth i bob cymuned yn y byd, a ffordd dda o wneud hyn oedd trwy efeillio trefi.

Yn 2005, sefydlwyd PONT, a efeilliodd Rhondda Cynon Taf yng Nghymru gyda Mbale yn Uganda. Mae bellach yn ceisio darparu gofal iechyd sylfaenol a gwasanaethau ambiwlans i 2 filiwn o bobl.

Deana Owen

Gyda gyrfa hir a llwyddiannus fel nyrs, aeth Owen i Zambia am y tro cyntaf fel nyrs ifanc newydd gymhwyso ym 1969, ychydig ar ôl i’r wlad ennill ei hannibyniaeth. 

Dychwelodd i’r DU ym 1972, a threuliodd 40 mlynedd yn gweithio fel ymwelydd iechyd, gan gysylltu ag amrywiaeth o wasanaethau i hybu iechyd da mewn maes penodol. Ar ôl iddi ymddeol yn 2012, cafodd Owen gyfle i ddychwelyd i Zambia am 3 mis fel gwirfoddolwr. Ymunodd â nyrsys eraill oedd wedi ymddeol i ymweld â theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan HIV/AIDS. Yma, fe wnaeth Owen gyfarfod â’u sefydliad partner yn nhref Monze; maen nhw’n parhau i gydweithio’n agos i gyflawni prosiectau heddiw fel rhan o’r elusen “Friends of Monze”.

Mae Owen wedi derbyn llawer o gefnogaeth a chyngor gan Hub Cymru Africa, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, ei heglwys ac eraill i sefydlu’r elusen Friends of Monze. Mae hi wrth ei bodd yn cadeirio ac yn rheoli’r elusen, ac mae hi mae wedi cwrdd â llawer o wahanol bobl, wedi ennill gwybodaeth a sgiliau newydd, ac wedi defnyddio ei sgiliau a’i phrofiad bywyd trwy’r elusen.