EN

Cyfiawnder Hinsawdd Mewn Undeb: Affricanwyr yn gweithredu

Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd Digwyddiad ar-lein Cofrestru

munwch â ni ar gyfer y sesiwn ar-lein gydweithredol hon sydd yn cael ei chynnal gan Maint Cymru a Hub Cymru Africa, sy’n canolbwyntio ar yr Affricanwyr yn gweithredu ar newid hinsawdd.

Byddwn yn croesawu panel arbenigol o siaradwyr sy’n gwneud gwaith anhygoel yng Nghymru ac Affrica dros gyfiawnder hinsawdd:

O’r Camerŵn yn wreiddiol, mae Dr Chi Fru yn Uwch Ddarlithydd Geomicrobioleg ac yn Ddarllenydd mewn Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n arbenigwr yn y system cefnfor-atmosffer.

Mae Steve Sodzi yn gadeirydd Caendon yn Llandudno ar hyn o bryd, ac yn rheolwr prosiect sy’n cefnogi prosiectau yn Kenya a Ghana, sy’n cefnogi datblygu cynaliadwy a lliniaru tlodi, fel tyfu coffi’n gynaliadwy.

Mae gan Sanab Hersi radd yn y gyfraith, ac mae hi’n actifydd amgylcheddol sydd wedi ailhyfforddi mewn permaddiwylliant (astudiaeth rheoli tir cynaliadwy), ac mae hi wedi sefydlu grŵp garddio lleol yn Grangetown, Caerdydd o’r enw Green Soul Garden. Cenhadaeth y grŵp yw darparu cyfleoedd a chreu mannau diogel i bobl o liw i gymryd rhan mewn mathau o dwf personol.

Mae Ize yn wyddonydd pridd ac amgylcheddol, yn ymchwilydd lliniaru newid hinsawdd, yn addysgwr ac yn eiriolwr iechyd y cyhoedd, a anwyd yn Nigeria.  Mae hi’n ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gyd-arweinydd 3rd Sector Support Africa (3SA); Sefydliad Strategaeth, Datblygu a Chymorth sy’n ymroi  i ddarparu atebion arloesol a chynaliadwy i chwaraewyr yn y trydydd sector ar draws meysydd thematig. Mae hi’n eiriolwr brwd dros gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy. Mae rhywfaint o’i hymchwil wedi canolbwyntio ar archwilio economi maetholion cylchol ar draws y meysydd rheoli gwastraff ac amaethyddiaeth. Mae Ize yn gysylltiedig â NCIC (Nigeria Climate Innovation Centre), yn aelod o NWAS (North Wales Africa Society), ac yn Llysgennad Hinsawdd Cymru.

Bydd y digwyddiad panel ar-lein 75 munud hwn yn mynd â chi ar daith o sut mae undod byd-eang a gweithredu ar yr hinsawdd yn gysylltiedig, ac yn dangos bod gweithredu ar yr hinsawdd i bawb.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi!