Digwyddiad rhwydweithio a dysgu ar y cyd Cymuned Cymru ac Affrica
Ymunwch â ni yn Llandudno i gysylltu â’ch cydweithwyr, rhannu brofiadau a’r pethau rydych chi’n eu dysgu o’ch prosiectau, a chyfrannu eich syniadau at ddyfodol Hub Cymru Africa a Rhaglen Cymru Affrica Llywodraeth Cymru yn 2027 ac yn y dyfodol.
Wrth i Lywodraeth Cymru newydd gael ei ffurfio ar ôl etholiad Senedd 2026, bydd Hub Cymru Africa yn rhannu diweddariadau ar y sector ehangach a’r goblygiadau ar gyfer ein gwaith, ac yn canolbwyntio ar godi arian a chynaliadwyedd.
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer y diaspora Affricanaidd, ymgyrchwyr masnach deg, partneriaethau iechyd, ac unrhyw un sydd â phrofiad neu ddiddordeb mewn undod byd-eang a phrosiectau datblygu rhyngwladol.
Bydd lluniaeth yn cael ei ddarparu.
13:30 – Cyrraedd
13:45 – Cyflwyniad gan Hub Cymru Africa
14:00 – Sgwrs am eich prosiectau, rhannu’r pethau rydych chi’n eu dysgu a’ch profiadau, a gofyn cwestiynau i gyfoedion.
14:45 – Egwyl a lluniaeth
15:00 – Edrych ymlaen: ymgynghori a chynllunio
15:45 – Canolbwyntio ar godi arian a chynaliadwyedd gan Hub Cymru Africa
16:15 – Sylwadau terfynol
16:30 – Diwedd y digwyddiad