Mae Setiau Dysgu Gweithredol (SDGau) yn ffordd syml a phwerus i ymarferwyr ym maes undod byd-eang i weithio gyda’i gilydd ar yr heriau sy’n eu hwynebu yn eu gwaith.
Yn 2023, treialodd Hub Cymru Africa gynllun peilot SDG gyda chyfranogwyr o chwe sefydliad Cymru Affrica.
Fe wnaeth gwerthusiad o’r peilot hwn ddarganfod fod y broses SDGau yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr gan gyfranogwyr, o ran cynnig amgylchedd cyfrinachol, diogel i rannu heriau cyffredin, ennill safbwyntiau eraill gan gyfoedion profiadol, a magu hyder yn eu dull eu hunain.
Rydym nawr yn lansio Set Dysgu Gweithredol newydd, ac yn eich gwahodd i ymuno â’ch cyfoedion a chael profiad o adnodd y gallwch ei ddefnyddio trwy gydol eich bywyd proffesiynol.
Rydym yn cynnal sesiwn wybodaeth awr o hyd ar ddydd Gwener 25 Hydref rhwng 12:00 – 13:00 GMT i gyflwyno’r fframwaith SDG ac i ateb eich cwestiynau.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio, a bydd y ddolen yn cael ei rhannu os na allwch fynychu’r sesiwn hon.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n Set Dysgu Gweithredu Cymru ac Affrica, cofrestrwch eich diddordeb yma:
Cofrestrwch eich ddiddordeb mewn ymuno â'n Set Dysgu Gweithredu Cymru ac Affrica