EN

Cynllun Grant Cymru ac Affrica Sesiwn Gwybodaeth

Newid Hinsawdd a'r AmgylcheddIechydDysgu Gydol OesBywoliaethau CynaliadwyGweminar Digwyddiad ar-lein Cofrestru
Jenipher's Coffi

Mae cylch cyntaf cynllun grant 2025-28 Cymru ac Affrica ar agor nawr i ymgeiswyr.

Gan weithio gyda phartneriaid yn Affrica Is-Sahara, gall mudiadau wneud cais am grantiau rhwng £5,000-£25,000 i wneud cyfraniad diriaethol i un o’r pedair thema ganlynol:

  • Iechyd
  • Dysgu Gydol Oes
  • Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
  • Bywoliaeth gynaliadwy

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, rydym yn eich gwahodd i ymuno â’n sesiwn wybodaeth gan WCVA ar 11 Mehefin 2025 rhwng 10:00 a 12:00 BST.