EN

Cynnwys dynion mewn cyfiawnder rhywedd

Amrywiaeth a ChynhwysiantCydraddoldeb Ehywedd a Grymuso MenywodCymuned Ymarfer Rhywedd Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru

Bydd y sesiwn nesaf hon, sy’n dilyn ymlaen o’r Gymuned Ymarfer Rhywedd hynod lwyddiannus ym mis Tachwedd, yn trafod y cyfleoedd a’r heriau o ran cael dynion i gymryd rôl weithredol yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn menywod a hyrwyddo cyfiawnder rhywedd.

  • Beth ydy’r technegau gorau er mwyn cael dynion a bechgyn i gymryd rhan mewn prosiectau undod byd-eang, a pha mor effeithiol ydyn nhw?
  • Beth ydy rhai o’r heriau wrth siarad â phobl sydd â phŵer?
  • Sut allwn ni fynd i’r afael â’r heriau hyn?
  • Pa dechnegau y dylsem wneud mwy ohonynt?
  • Beth sydd wedi troi allan i fod yn llai effeithiol?

Byddwn yn clywed gan wahanol aelodau o’r sector undod byd-eang a Chymuned Cymru ac Affrica am eu profiadau o fagu hyder a chapasiti dynion yn yr ymdrech dros gyfiawnder rhywedd.

Rydym yn edrych ymlaen at drafod strategaethau llwyddiannus, yn ogystal â dysgu o strategaethau llai llwyddiannus.

Siaradwyr

Isaac Mbroh

Francis Mukhwana

Lois Gerber

Steve Garrett

Lettie Chimbi

  • Cyfarwyddwr Chomuzangari Women’s Co-operative

Mwy o Gymuned Ymarfer Rhywedd

Mae’r sesiwn hon yn dilyn ymlaen o’n cyfarfod ar 21 Tachwedd, lle y gwnaethom glywed gan Bawso a Phrosiect Grymuso Cymunedol Sebei Fwyaf yn Uganda. Os nad oeddech chi yn y digwyddiad hwnnw, gallwch ddal fyny yma: