EN

Diaspora Affrica Gogledd Cymru: Undod ar waith

Diaspora Digwyddiad mewn person Canolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor, 346 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1YA Cofrestru

Mae’r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn dod ag aelodau o’r gymuned diaspora Affricanaidd yng ngogledd Cymru at ei gilydd i archwilio ffyrdd gwahanol o gymryd rhan mewn gwaith undod rhyngwladol:

  • Gwirfoddoli
  • Grantiau
  • Cefnogi mentrau presennol

Bydd y digwyddiad yn pwysleisio pwysigrwydd cyfranogiad gwleidyddol hefyd, yn enwedig o ystyried yr etholiad Seneddol sydd ar ddod, a bydd yn annog y gymuned undod byd-eang i gymryd rhan weithredol mewn ffurfio bywyd sifil.

Byddwch yn clywed gan arweinwyr yn y sector undod byd-eang, yn rhannu strategaethau ar gyfer meithrin partneriaethau, ac yn hyrwyddo cydweithrediad byd-eang sydd wedi ei seilio ar gyfiawnder a pharch.

Agenda

10:00 – 10:30 | Cofrestru a lluniaeth

  • Croeso, cofrestru, a rhwydweithio anffurfiol.

10:30 – 10:35 | Sylwadau agoriadol

  • Sam Njoku, Cyfarwyddwr Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru ac Arweinydd Ffisiotherapy Clinigol

10:35 – 10:55 | Cyflwyniad

  • Ore Ojelade – Swyddog Diaspora a Chynhwysiant, Hub Cymru Africa
  • Pwysigrwydd undod yng Nghymru a chyfranogiad cymunedol
  • Amlygiad Penwythnos Masnach Deg.

10:55 – 11:30 | Prif araith

  • Lena Bheeroo – Pennaeth Gwrth-Hiliaeth a Thegwch, BOND
  • “Tegwch, Gwrth-Hiliaeth a Pherthyn yn y Sector”
  • Prif araith o 20 munud a fydd yn cael ei ddilyn gan sesiwn Holi ac Ateb/trafodaeth o 15 munud.

11:30 – 11:50 | Egwyl

11:0 – 12:30 | Trafodaeth Banel: “Mwy nag un ffordd i mewn”

  • Cymedrolwyr:
    • Simeon Ayoade, Rheolwr Cymorth Datblygu, Hub Cymru Africa
    • Oreoluwa Ojelade, Swyddog Doaspora a Chynhwysiant, Hub Cymru Africa
  • Panelwyr:
    • Steve Sodzi, Cadeirydd CAEDON
    • Sam Njoku, Cyfarwyddwr Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru
    • Lena Bheeroo, Pennaeth Gwrth-Hiliaeth a Thegwch, BOND
    • Jalia Nabukalu, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Busnes, Canolfan ar gyfer Ymchwil a Phrofiad Cynaliadwyedd
  • Ffocws y trafodaeth:
    • Sut gall cymunedau diaspora Affricanaidd yng Nghymru lunio cydweithrediad a chyd-ddealltwriaeth fyd-eang
    • Rhwystrau y mae pobl o liw yn eu hwynebu wrth geisio cymryd rhan, a ffyrdd ymarferol i ddelio
    • Llu o lwybrau a chyfleoedd i ymgysylltu mewn datblygiad rhyngwladol a chydwybodaeth.

12:30 – 13:20 | Cinio

13:20 – 13:30 | Cael cyllid grant ar gyfer gwaith prosiect yn Affrica

  • Julian Rosser, Pennaeth Hub Cymru Africa
  • Canllaw ymarferol ar gael mynediad i grantiau a chefnogi mentrau ar lawr gwlad.

13:30 – 14:20| Sgwrs dan y Sylw: Cyfraniadau gan fynychwyr

  • Man lle gall mynychwyr ddangos eu gwaith a rhannu profiadau ymarferol o brosiectau undod a datblygu rhyngwladol.

14:20 – 14:30 | Adborth a sylwadau cau

  • Wedi’i hwyluso gan Oreoluwa Ojelade