EN

Diogelu Gloywi

Gweminar Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru
Safeguarding Surgery by Hub Cymru Africa

Ar gyfer unrhyw un sydd wedi cwblhau hyfforddiant diogelu mewn datblygiad rhyngwladol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac sydd eisiau gloywi eu hymarfer trwy drafod astudiaethau achos.

Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau hyfforddiant diogelu gyda Hub Cymru Africa (neu gyfatebol) mwy na dwy flynedd yn nôl, neu’r rhai sydd wedi cwblhau hyfforddiant ac yn angen diweddaru ei ddealltwriaeth.

Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer staff, a gwirfoddolwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru ac Affrica, ac sydd eisiau g wella eu polisi a’u harferion diogelu.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn tywys cyfranogwyr i edrych yn penodol at:

  • Sut i ddelio gyda digwyddiad: adrodd atebion
  • Cyd-gynhyrchu gyda phartneriaid a chymunedau a phethau i feddwl amdano
  • Dogfennau pwysig: beth rydych chi’n defnyddio nawr? Beth rydych chi’n angen?

Bydd yr hyfforddiant yn defnyddio astudiaethau achos I weithio drwy ymarferion diogelu a thynnu sylw at ymarferion dda. Os oes gennych senario hoffech ei harchwilio, cysylltwch â advice@hubcymruafrica.wales.

Bydd amser i rannu profiad, gofyn cwestiynai a darganfod ble i chwilio am adnoddau pellach.

Mae angen i staff allweddol o sefydliadau sy’n gwneud cais am Gynllun Grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn hyfforddiant Diogelu (Hanfodol, Gloywi, a swyddogion diogelu os yn berthnasol) yn ystod y ddwy flynedd diwethaf er mwyn gwneud cais am grant neu fod yn barod i gwblhau sesiwn fel telerau’r grant. Mae hyfforddiant diogelu cyfatebol mewn cyd-destun rhyngwladol hefyd yn dderbyniol.

Ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio yng Nghymru, edrychwch ar Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol Cymru sy’n manylu ar y hyfforddiant diogelu sydd ei angen ar weithwyr sy’n gweithio yng Nghymru. Argymhellir i bawb (staff, gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr) yn eich sefydliad yng Nghymru gwblhau’r modiwl Grŵp A Diogelu i ddechrau eu dysgu diogelu, neu fel adnewyddu, cyn hyfforddiant Hub Cymru Africa.