EN

O rannu profiadau i ddylanwadu ar weithredu

Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau

Amrywiaeth a ChynhwysiantHawliau DynolBywoliaethau CynaliadwyGwirfoddoliGweminar Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru

Dathlu llwyddiannau Share Our Story (#SOS) ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau 2026

Dyddiad y digwyddiad:

Dydd Iau 10 Rhagfyr 2026

Amser y digwyddiad:

Y Digwyddiad dathlu: 11:00 yb – 12:15 yp (amser y DU)
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) #SOS i’r rhai sy’n dymuno aros: 12:15 yp – 1:00 yp (amser y DU)

Hygyrchedd:

Nodwch unrhyw anghenion mynediad ar y ffurflen gofrestru. Sylwer: bydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu gyda #SOS, sy’n trefnu’r trefniadau hygyrchedd ar gyfer y digwyddiad.

Beth yw pwrpas y digwyddiad hwn?

Bydd y digwyddiad ar-lein hwn, sydd yn cael ei drefnu gan Share Our Story (#SOS) a Hub Cymru Africa, yn dathlu’r rôl hanfodol y mae pobl ag anableddau yn ei chwarae wrth lunio byd cynaliadwy.

Mae #SOS yn fenter sy’n cysylltu pobl anabl yng Nghymru ac 11 o wledydd yn Affrica i rannu eu profiadau bywyd, adeiladu dyfodol gwell, ac i dynnu sylw at gyflawniadau ac uchelgeisiau pobl ag anableddau yng Nghymru, Affrica a thu hwnt.

Byddwn yn clywed gan unigolion anabl a Sefydliadau Pobl Anabl am sut maen nhw’n helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau a sbarduno newid ym maes datblygu. Bydd siaradwyr o wahanol rannau o Affrica a Chymru yn rhannu sut mae eu gwaith yn arwain at newid trawsnewidiol i gymunedau, gan leihau stigma, herio rhwystrau a chreu cyfleoedd mwy cynhwysol i bobl ag anableddau.

Mae croeso hefyd i bobl sydd â diddordeb i aros ymlaen ar ddiwedd y sesiwn ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) byr #SOS, i glywed adroddiadau ac i gymryd rhan yn y cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon?

Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn anabledd a datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag undod byd-eang. Mae croeso i chi ymuno â ni, p’un a ydych yn ystyried eich hun yn berson anabl ai peidio.

Ynghylch #IDPD2026:

Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau (IDPD) y Cenhedloedd Unedig wedi cael ei ddathlu bob blwyddyn ers 34 mlynedd. Mae’n gyfle i dynnu sylw at gyflawniadau ac uchelgeisiau cymunedau anabl yng Nghymru ac ar draws y byd. Fel arfer, mae’r diwrnod yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr. Mae Hub Cymru Africa a #SOS wedi dewis cynnal ein dathliad IDPD ar 10 Rhagfyr, er mwyn osgoi amharu ar ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol eraill.

Ynghylch Share Our Story (#SOS):

Sefydlwyd Share Our Story (#SOS) ym mis Mawrth 2022 fel grŵp WhatsApp a hyd yn hyn, mae wedi rhannu dros 200 o straeon a thrafodaethau gyda chyfranwyr o 11 o wledydd o Affrica ac o Gymru. Mae’r canfyddiadau a’r negeseuon sy’n deillio o’r trafodaethau hyn yn cael eu defnyddio wedyn i hyrwyddo datblygu cynhwysol i bobl anabl drwy’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy fynychu cynadleddau a chymryd rhan mewn diwrnodau codi ymwybyddiaeth.

Gwefan: https://shareourstory.uk/

I ofyn cwestiynau neu i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad neu am Share Our Story (#SOS), anfonwch e-bost at shareourstoryinfo@gmail.com