EN

Diogelu Hanfodol

Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru

Ar gyfer pwy mae’r hyfforddiant hwn?

  • Staff, a gwirfoddolwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru ac Affrica, ac sydd eisiau g wella eu polisi a’u harferion diogelu.
  • Staff, gwirfoddolwyr neu ymddiriedolwyr sy’n teithio, neu sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau rhaglenni sy’n cario unrhyw risg diogelu (y mae’r hyfforddiant hwn yn ofynnol ar eu cyfer o dan gynllun grant CGGC).
  • Mae staff partner yn Affrica yn cael eu hannog hefyd i fynychu os yw hyn yn bosibl.
  • Pobl sydd heb gwblhau hyfforddiant Diogelu gyda Hub Cymru Affrica eto, neu sydd wedi cwblhau hyfforddiant dros ddwy flynedd yn ôl, ac sydd eisiau gloywi eu gwybodaeth.

Bydd angen i’r Swyddogion Diogelu Dynodedig gwblhau’r hyfforddiant hwn fel rhagofyniad ar gyfer yr hyfforddiant Swyddog Diogelu (gweler isod).

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu?

Bydd yr hyfforddiant hwn yn tywys cyfranogwyr drwy’r arferion a’r gofynion diogelu hanfodol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio mewn undod byd-eang â phartneriaid yn Affrica. Bydd yr hyfforddiant yn:

  • Diffinio Diogelu o fewn cyd-destun rhyngwladol, ac o fewn y cyd-destun yng Nghymru
  • Esbonio safonau diogelu byd-eang a sut i’w bodloni
  • Trafod sefyllfaoedd ac ymddygiadau sy’n ymwneud â phryder ynghylch diogelu
  • Esbonio’r cylch Diogelu, a’r tair colofn atal, adrodd ac ymateb, a sut i gymhwyso’r rhain yn eich sefydliad gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar oroesi
  • Rhannu offer i asesu risg, a nodi bylchau mewn ymarfer
  • Rhannu templedi ar gyfer dogfennau allweddol y bydd angen i chi gael yn eu lle  i gefnogi’r arferion gorau o ran atal, ymateb ac adrodd
  • Defnyddio astudiaethau achos i roi dysgu ar waith.

Bydd rhywfaint o waith ymlaen llaw ar gyfer yr hyfforddiant hwn er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r sesiwn grŵp.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn digwydd ar-lein drwy Zoom, ac mae’n hyfforddiant cyfranogol.