Gan fod Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn cael ei gynnal yr un wythnos, bydd y sesiwn hon o’n Cymuned Ymarfer Rhywedd yn canolbwyntio ar y rôl ganolog y gall dynion ei chwarae wrth eiriol dros hawliau menywod a grymuso menywod.
Bydd Rooda Ahmed o Bawso a Samuel Sokuton, Greater Sebei Community Empowerment Project yn Uganda, yn rhannu profiad o’u prosiect cydweithredol yn rhanbarth Sebei yn Uganda, gyda’r nod o wahardd triniaethau Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM). Bydd Rooda a Samuel yn ymchwilio i elfennau’r prosiect o gael dynion a bechgyn i weithredu fel cynghreiriaid yn y frwydr yn erbyn FGM.
Ar ôl y cyflwyniad, bydd cyfle i drafod, gan ganiatáu i’r rhai sy’n bresennol i rannu eu profiadau eu hunain, syniadau ychwanegol a strategaethau mewn perthynas â cheisio cael dynion i ymgysylltu’n effeithiol i gyflawni amcanion y prosiect a sicrhau mwy o gydraddoldeb rhywedd.
Mae’r Eiriolwr Joanna Jonas, sydd yn byw yn Lesotho, yn actifydd angerddol dros hawliau dynol a rhywedd, yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol, ac yn eiriolwr amlwg dros hawliau menywod a grymuso menywod. Mae hi’n cael ei hysgogi gan ei ymrwymiad mewn perthynas ag egwyddorion ffeministaidd a hawliau menywod, ac yn sylfaenydd balch ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol Nairasha Legal Support, menter gyfreithiol gymdeithasol arloesol sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, mynediad at gyfiawnder gan ddioddefwyr a goroeswyr trais ar sail rhywedd (GBV), a thros rymuso cymunedau a ymyleiddiwyd. O dan ei harweinyddiaeth, mae Nairasha Legal Support wedi dod yn rym amlwg wrth fynd i’r afael â heriau cyfreithiol sydd yn cael eu hwynebu gan fenywod, gan gyfrannu’n sylweddol at y drafodaeth ehangach ar drais ar sail rhywedd (GBV).
Mae gwaith Joanna yn ymestyn y tu hwnt i’w mamwlad, gan ei bod yn Gadeirydd balch Dolen Cymru-Lesotho, sefydliad sy’n pontio cysylltiadau rhwng Lesotho a Chymru, ac sy’n pwysleisio cydweithio a chyd-ddealltwriaeth.
Fel cydlynydd prosiect ar gyfer prosiect Bawso-Sebei yn Uganda, rôl Rooda ydy goruchwylio’r prosiect, a gweithio’n agos gyda’r tîm ar lawr gwlad i gyflawni canlyniadau’r prosiect. Mae hi’n gweithio gyda Sebei Community Empowerment Project i gydlynu gweithgareddau sy’n digwydd yn Uganda. Yng Nghymru, mae hi’n cydlynu cangen Cymru o’r prosiect, sy’n cynnwys gweithio mewn ysgolion, cymunedau a gyda gwirfoddolwyr. Mae hi’n cyflwyno sesiynau i gynyddu gwybodaeth am driniaethau Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yn y gymuned, gyda’r nod o leihau nifer yr achosion o hyn ymhlith buddiolwyr.
Gweithiwr cymdeithasol hunanysgogol ydy Samuel, sydd gyda mwy na deng mlynedd o brofiad o reoli prosiectau wrth weithredu rhaglenni datblygu cymunedol yn isranbarth Sebei yn Nwyrain Uganda, gyda’r ffocws ar ddatblygu cymunedol, grymuso, Bywoliaethau Ieuenctid, Dŵr, Glanweithdra a Hylendid (WASH), cyfranogiad is gan y cyngor lleol mewn datblygu cymunedol ac addysg, ymhlith eraill.
Mae Bawso, a sefydlwyd ym 1995, yn elusen Cymru gyfan ac yn arweinydd mewn gwasanaethau cam-drin domestig ar gyfer cymunedau Du ac Ethnig Leiafrifol (BME), sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr gan gynnwys ar driniaethau Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM), Priodasau dan Orfod, Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl (MSHT). Mae Bawso yn cefnogi dros 7,000 o ddioddefwyr a goroeswyr trais bob blwyddyn. Hyd yn hyn, mae Bawso wedi cefnogi dros chwarter miliwn o bobl ers 1995.
Nod prosiect Bawso-Sebei ydy chwarae rhan bwysig mewn dileu triniaethau Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yn rhanbarth Sebei yn Uganda. Mae Bawso yn gweithio gyda Sebei Community Empowerment Project i gynnal sesiynau ac adeiladu cynghreiriau trwy gyfrwng ysgolion a chymunedau. Nod y prosiect ydy mynd i’r afael â’r arferion diwylliannol dwfn hyn yn rhanbarth Sebei, trwy herio normau cymdeithasol niweidiol a newid calonnau a meddyliau cyflawnwyr gwrywaidd. Y prif amcan ydy ‘newid agwedd’ o ran herio ymarfer Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM), a chofleidio diwylliant iach a diogel i bawb. Mae hefyd yn creu cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth rhwng Uganda a Chymru.
Pwrpas y Gymuned Ymarfer Rhywedd ydy creu amgylchedd cefnogol i ddysgu a chyfnewid gwybodaeth ynghylch cydraddoldeb rhywedd a grymuso menywod, er mwyn gwella ansawdd ein gwaith.