Mae Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP) yn eich croesawu i’w gala, i ddathlu 15 mlynedd o SSAP a’r gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud yng Nghymru, y DU ac ar draws Affrica.
Côd gwisg: Dillad Affricanaidd traddodiadol.
Mae SSAP eisiau dathlu bywiogrwydd y cyfandir a’r gymuned Affricanaidd yng Nghymru, felly gwisgwch i greu argraff! Bydd y digwyddiad yn arddangos trysorau diwylliannol Affrica, cyfandir mwyaf bywiog y byd, ac yn dathlu ei bwyd, ffasiwn, cerddoriaeth, dawns, barddoniaeth a mwy!
Mae SSAP yn croesawu pawb yn y digwyddiad hwn; os nad ydych yn berchen ar ddillad Affricanaidd traddodiadol, gwisgwch eich gwisg neu wisg draddodiadol eich hun i greu argraff wedi’i hysbrydoli gan harddwch Affrica.
Rydym yn gwneud ymdrech fawr i ddathlu pymtheg mlynedd o SSAP; bydd ein holl westeion yn cael eu trin fel enwogion. Bydd ffotograffydd proffesiynol yn sicrhau eich bod yn cael lluniau o’r holl onglau cywir wrth i chi gamu ar ein carped coch. Byddwch yn cael eich cyfarch gyda gwydraid o bubbly (alcoholig a di-alcohol) a’ch croesawu i noson gyffrous. Bydd storïwyr lleol, beirdd, cerddorion a’n siaradwyr gwadd yn eich diddanu wrth i chi fwyta bwyd gan arlwywyr Affricanaidd lleol ac yfed brandiau diod o’ch dewis o’r cyfandir o’n bar, a fydd ar agor trwy’r nos.
Ar ôl yr adloniant, camwch ymlaen i’r llawr dawnsio a gadewch i DJ Dott fynd â chi trwy gerddoriaeth hen a newydd o bob rhan o’r cyfandir. Anghofiwch eich pryderon, a dawnsiwch drwy’r nos i synau Highlife, Rhumba, Makossa, Ndombolooo, Afrobeats, Soukous, Kizomba a mwy.
Bydd eich lluniau o’r digwyddiad ar gael i chi drwy gais i gadw’r atgofion gorau.
Y rhaglen ar gyfer y diwrnod: