EN

Heintiau sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau: her iechyd fyd-eang

IechydDarlith Flynyddol Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru Digwyddiad ar-lein Zoom Webinar Cofrestru

Siaradwyr

Victoria Rutter

MPharm PGDipClinPharm FFRPS FRPharmS, Prif Weithredwr, Cymdeithas Fferyllwyr y Gymanwlad.

Penodwyd Victoria yn Brif Swyddog Gweithredol cyntaf Cymdeithas Fferyllwyr y Gymanwlad yn 2016. Mae ei hymroddiad wedi cynyddu ôl troed a ffrydiau gwaith yr elusen yn sylweddol, gan gefnogi gwell mynediad at feddyginiaethau a’u defnydd mewn ysbytai/gwasanaethau iechyd mewn gwledydd tlawd, ac arloesi rhaglen Partneriaethau’r Gymanwlad mewn Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd uchel ei chlod. Mae hi wedi chwarae rôl arweiniol ar gyfer y proffesiwn mewn nifer o fforymau polisi lefel uchel, gan gynnwys fel cynrychiolydd cymdeithas sifil Pwyllgor Cynghori’r Gymanwlad ar Iechyd. Cyn hyn, arweiniodd Victoria y gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth a’r gweithlu trwy gyfrwng cydweithio’n rhyngwladol mewn ysbytai blaenllaw yn Llundain a Singapore, a datblygu portffolio ymarfer byd-eang mawr.

Maxencia Nabiryo

Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus a Rheolwr Rhaglen AMR yng Nghymdeithas Fferyllwyr y Gymanwlad.

Mae Maxencia Nabiryo yn ymarferydd iechyd y cyhoedd, sydd â phrofiad helaeth o reoli a gweithredu rhaglenni ymyrraeth iechyd yn fyd-eang, a helpu i newid polisi i wella canlyniadau iechyd. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer Cymdeithas Fferyllwyr y Gymanwlad. (CPA), ac yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth dechnegol rhaglen Partneriaethau’r Gymanwlad mewn Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd, sydd yn cael ei hariannu gan Fleming, ar draws wyth o wledydd Affricanaidd. Yn dal o dan y CPA, bu’n gweithio fel Rheolwr Prosiect ar raglen Ymwrthedd Gwrthficrobaidd arall (SPARC), lle hwylusodd y gwaith o gynhyrchu a chasglu data ar faint o gyffuriau gwrthficrobaidd sydd yn cael eu defnyddio i wella arferion rhagnodi yn Affrica ac Asia.

Dr Tony Jewell

Cyn-Prif Swyddog Meddygol Cymru a Chyn-Gadeirydd Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica.

Dechreuodd gyrfa broffesiynol Dr Jewell fel myfyriwr meddygol clinigol yn Nwyrain Llundain ac yna, bu’n gweithio fel prif Feddyg Teulu am 10 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, ffurfiodd bractis grŵp a dyluniodd ac adeiladodd ganolfan addysgu, ymchwil ac iechyd seiliedig ar wasanaeth yn Stryd Chrisp E14. Mae hon yn parhau i fod yn ganolfan ffyniannus heddiw. Yna, hyfforddodd ym maes iechyd y cyhoedd yn East Anglia, gan ddod yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn Peterborough, Caergrawnt ac yna, yn Norfolk, Suffolk a Swydd Caergrawnt, SHA, a gwasanaethodd fel Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU am 4 blynedd.

Yn dilyn hyn, penodwyd Dr Jewell yn Brif Swyddog Meddygol Cymru cyn iddo ymddeol yn 2012. Yn ystod y cyfnod hwn, diddymodd Llywodraeth Cymru y farchnad fewnol, creodd Iechyd Cyhoeddus Cymru a mabwysiadu’r strategaeth Ein Dyfodol Iach, i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau yng Nghymru.

Ar ôl iddo ymddeol, gwasanaethodd Dr Jewell fel Chwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, sydd wedi uno â THET eleni i ffurfio Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru.