EN

Cymru, Affrica a Menywod

Dathliad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Cydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Digwyddiad mewn person Y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd, CF10 3AP Cofrestru Ychwanegwch at eich calendr
The ZimVoices Choir performing at an event in the Welsh Parliament.

Mae’n bleser gan Hub Cymru Africa gyflwyno noson o ddathlu a chydnabod menywod ar draws y byd fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, gyda pherfformiadau byw, stondinau, bwyd Affricanaidd, diodydd a chyfleoedd i rwydweithio.

Mae 2026 yn nodi 115 mlynedd ers sefydlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Er bod llawer o gynnydd wedi cael ei wneud, mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn broblem fawr, sy’n niweidio pobl ar draws y byd.  

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn darparu llwyfan pwysig i ymgysylltu â chymunedau, myfyrio ar gynnydd, ac ymrwymo i weithredu cadarnhaol. Yn y sector undod byd-eang, mae menywod yn arwain yr ymdrech i adeiladu byd teg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Boed y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, cryfhau iechyd y cyhoedd, dysgu gydol oes neu effeithio ar newidiadau ym maes polisi, mae menywod yn arwain y ffordd.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, rydym yn cofio menyw hollol ysbrydoledig hefyd, sef Claire O’Shea, a oedd yn ymgyrchydd digyfaddawd dros gyfiawnder, ac yn arweinydd ym maes undod byd-eang, Roedd Claire yn bennaeth Hub Cymru Africa tan fis Mai y llynedd, pan fu farw o ganser. Fe wnaeth Claire ymroddi ei bywyd i wella addysg ac iechyd, unigedd, cynhwysiant a chyfiawnder byd-eang ar draws y byd.

Ar ôl ymuno â Hub Cymru Africa yn 2019, daeth Claire yn arweinydd ym maes undod byd-eang a datblygiad rhyngwladol. Roedd hi’n eiriolwr brwd dros y pwysigrwydd o helpu pobl mewn angen ar draws y byd, ac fe wnaeth ei hangerdd at undod byd-eang aros yn gryf, hyd yn oed wrth i’w hiechyd ei hun ddirywio.

Er gwaethaf ei diagnosis a’i rhagolygon, defnyddiodd Claire ei phŵer i herio triniaeth annheg o fenywod yn y gwasanaeth iechyd, ac i frwydro dros ganlyniadau gwell. Llwyddodd i wneud hyn trwy sefydlu ymgyrch yn ei henw – Claire’s Campaign. Rydym yn teimlo anrhydedd mawr mewn cael cwmni Claire’s Campaign ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn.

Agenda

18:45 – Drysau’n agor

  • Mwynhewch ddiod a’r cyfle i sgwrsio gyda gwesteion eraill.

19:00 – Mae’r digwyddiad yn dechrau gyda chroeso gan ein cyflwynydd, Elemchi Nwosu

19:05 – Cyflwyniad i Hub Cymru Africa gan Israa Mohammed, Cadeirydd Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru

19:10 – Sbotolau ar brosiectau grymuso menywod gan CGGC

 

19:15 – Perfformiad: Aïda Diop

  • Ewch o gwmpas y stondinau, a daliwch i fyny gyda ffrindiau tra’n mwynhau perfformiad gwych gan Aïda Diop

19:30 – Cinio, rhwydweithio a marchnad

  • Mwynhewch fwyd awthentig a blasus Nigeraidd gan Id’s Place, tra’n cwrdd ac ymgysylltu â chefnogwyr o’r maes undod byd-eang a phori stondinau’r sector.

19:45 – Perfformiad: ADJUA

  • Mae ADJUA yn gantores – gyfansoddwraig caneuon Alt-R&B, Lladin a funk, a gafodd ei geni a’i magu yn Splott, Caerdydd. Mae ADJUA yn hoffi defnyddio dylanwad ei threftadaeth Cymraeg-Ghanaieg, ac yn arddangos ei sgiliau unigryw mewn recordio a chyfansoddi caneuon, gyda geiriau gwleidyddol a theimladwy.

20:15 – Teyrnged i Claire O’Shea

  • Mae cydweithwyr a ffrindiau Claire yn talu teyrnged i ymgyrchydd digyfaddawd ac angerddol dros gyfiawnder byd-eang a rhywedd, a chyn-bennaeth Hub Cymru Africa, Claire O’Shea.
  • Cath Moulogo ar etifeddiaeth Claire ym maes undod byd-eang
  • Chizi Phiri, un o’r bobl oedd yn arfer cael eu mentora gan Claire, yn siarad am ei rôl mewn grymuso a chefnogi menywod.
  • Neges gan Dr Kathrin Thomas a Claire’s Campaign,  sy’n canolbwyntio ar newid polisi drwy leisiau a straeon pobl, a thrwy ymgyrchu i newid y diwylliant o anwybyddu lleisiau menywod mewn gofal iechyd.

20:40 – Cyfarfod a rhwydweithio gyda chefnogwyr a chydweithwyr ym maes undod byd-eang,  a phori trwy stondinau’r farchnad, tra’n bod ni’n chwarae rhestr chwarae bwrpasol o gerddoriaeth Affricanaidd.

 

20:55 – Sbotolau ar Treeflights a Maint Cymru: partneriaeth rhwng Cymru, Uganda a Kenya 

  • Mae Rhaglen Cymru ac Affrica wedi cefnogi Treeflights a’u gwaith yng ngorllewin Cymru a chymuned Boré yn Kenya am fwy na 15 mlynedd. Mae’r ariannu hirdymor wedi bod yn hanfodol o ran helpu i adeiladu newid real, positif yn y ddwy gymuned.  Mae hyn wedi arwain at greu model ymarferol dan arweiniad y gymuned ar gyfer mynd i’r afael â’r dirywiad yn yr hinsawdd ac ar yr un pryd, wedi gwella bywydau a helpu menywod i gael llais cryfach a mwy o bŵer yn Kenya, ac ymgysylltu â chymunedau yng Nghymru.
  • Fideo gan Maint Cymru ar brosiect Fuluma Butta.

21:05 – Perfformiad: Tia Zakura Camilleri

  • Mae Tia yn artist creadigol o Gaerdydd, sydd wedi gadael marc parhaol ar y dirwedd artistig gyda’i ffocws unigryw ar farddoniaeth a theatr. Mae arddull unigryw Tia, sef ‘flowetry’, yn cyfuno rhythm a chwarae ar eiriau.  Mae Tia-zakura  yn canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol, ac yn cyfuno cerddoria.

21:25 – Perfformiad: ZimVoices

  • Wrth i’r digwyddiad ddod i ben, rydym yn croesawu ZimVoices, côr o bum menyw o Zimbabwe, sy’n byw yng Nghymru erbyn hyn. Byddant yn perfformio anthemau traddodiadol pwerus a bywiog o Dde Affrica, yn bennaf o Zimbabwe.

22:00 – Diwedd