EN

Lansio’r Gymuned Ymarfer Urddas Mislif

Cydraddoldeb Ehywedd a Grymuso Menywod Digwyddiad ar-lein Zoom Cofrestru

Yn dilyn dau sesiwn dysgu a rhwydweithio llwyddiannus ar urddas mislif, cyfiawnder mislif ac iechyd mislif, mae’n bleser gan Hub Cymru Africa gefnogi lansiad Cymuned Ymarfer bwrpasol ar gyfer partneriaethau rhwng Cymru ac Affrica sydd yn gweithio yn y maes hwn.

Bydd y rhwydwaith newydd hwn, sydd yn cael ei arwain gan aelodau, yn darparu gofod croesawgar i ymarferwyr, partneriaid, eiriolwyr ac arbenigwyr i gysylltu, rhannu profiadau a heriau, cyfnewid arferion da a dysgu oddi wrth ei gilydd. Bydd y Gymuned Ymarfer yn cael ei chadeirio’n annibynnol gan aelodau o Gymuned Cymru ac Affrica, ac yn cael ei siapio gan fuddiannau, blaenoriaethau a syniadau cyfranogwyr.

Dewch i ymuno â ni ar ddydd Llun, 20 Gorffennaf am 11yb ar gyfer y cyfarfod lansio, lle byddwch yn cael cyfle i gwrdd â’r cyd-gadeiryddion Shadreck Sequesseque a Delyth Pannett, dysgu mwy am eu gwaith, cysylltu â chyfranogwyr eraill, a helpu i lunio themâu a gweithgareddau’r grŵp ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Gymuned Ymarfer hon yn agored i unrhyw un sydd yn byw yng Nghymru neu Affrica ac sydd â diddordeb mewn urddas mislif, cyfiawnder mislif neu fentrau iechyd mislif. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn anffurfiol ar-lein ddwywaith y flwyddyn, a bydd yr agenda’n cael ei chreu yn unol ag anghenion a blaenoriaethau’r aelodau.

Galwch heibio i helpu i adeiladu gofod cydweithredol ar gyfer cysylltu â chyfoedion, dysgu ac i gefnogi eich gilydd.

Cyd-gydeirydd

Shadreck Sequesseque

Mae Shadreck Sequesseque yn Gyd-sylfaenydd ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol ANAH (Associação Nacional de Ajuda Humanitária), sef sefydliad cymunedol sy’n ymroddedig i wella bywydau poblogaethau bregus ar draws Angola.

Yn ei rôl bresennol, mae’n darparu arweinyddiaeth strategol, yn goruchwylio gweithredu rhaglenni, yn cael yr adnoddau sydd eu hangen, ac yn adeiladu partneriaethau sy’n hyrwyddo atebion cynaliadwy yn y meysydd iechyd, addysg, amaethyddiaeth, a grymuso menywod. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn hyrwyddo iechyd ac urddas mislif, grymuso economaidd, a chryfhau gwydnwch cymunedau ymhlith poblogaethau sydd yn cael eu tanwasanaethu.

Delyth Pannett

Mae gan Delyth fwy na 15 mlynedd o brofiad o weithio fel unigolyn proffesiynol ym maes addysg ac fel ymgynghorydd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, ac mae hi’n ymroddedig iawn i gefnogi unigolion a chymunedau trwy gyfrwng addysg ac atebion cynaliadwy.

Mae ei gwaith yn cynnwys cydlynu timau gwirfoddol Days for Girls UK, rheoli’r gwaith o ddosbarthu pecynnau iechyd mislif y gellir eu hailddefnyddio ar draws y byd, a datblygu strategaethau eiriolaeth ac addysg iechyd mislif y DU. Mae Delyth wedi byw a gweithio dramor mewn gwledydd sy’n cynnwys Azerbaijan ac Angola, ac fe wnaeth ymuno â Days for Girls yn wreiddiol fel Arweinydd Tîm Gwirfoddol.