Ymunwch â Cymru Masnach Deg ar gyfer marchnad gyda stondinau moesegol a Masnach Deg, ardal caffi, bwyd ac adloniant, wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o’r marc Masnach Deg, a dod at ein gilydd ar gyfer y Bythefnos Masnach Deg.
Mwynhewch ddiodydd poeth Masnach Deg, bwyd blasus o’r lori Global Eats gan Oasis, ac ewch o gwmpas y stondinau i weld nwyddau Masnach Deg a moesegol, ffasiwn gynaliadwy a vintage, ac am y cyfle i gyfnewid llyfrau, prynu planhigion a mwy.
Dywedwch helo wrth Jenipher o Uganda, cynhyrchydd coffi, sy’n rhan o Gwmni Coffi Mt Elgon, a rhowch gynnig ar ei coffi anhygoel.
Bydd gweithdy brodwaith galw heibio, a’r cyfle i wneud bathodynnau ac i ennill gwobrau hefyd.
Mae’n rhaid i chi gael cacen, felly codwch sleisen wrth i ni ddweud Pen-blwydd Hapus yn 30 oed i’r marc Masnach Deg.
Fair and Fabulous – cynnyrch ac anrhegion Masnach Deg o ffynonellau moesegol
Conscious Coffee gan Safe Foundation
Ethical Boutique – Dillad ac ategolion ail-law
Tryc Global Eats gan Oasis – Yn gweini bwyd Lladin awthentig
Cyfnewid llyfrau. Dewch â llyfr, cyfnewidiwch lyfr, ewch â llyfr gyda chi
Green Squirrel – blodau DIY – gwneud eich bouquets eich hun ac anrhegion wedi’u gwneud â llaw
Cymru Masnach Deg- gwybodaeth a gwobr am ddyfalu nifer y ffa coffi yn y jar
Co-op – Cynhyrchion Masnach Deg sydd yn cael eu gwerthu gan Co-op yn eu siopau, gwybodaeth am Aelodaeth Co-op, a phethau am ddim
Jenipher’s Coffi – Coffi Masnach Deg o Uganda
Gorgeous Franks – anrhegion moesegol ac wedi’u hailgylchu â llaw
Art Market Cardiff – Planhigion tŷ ar werth
Splo-Down Food Cooperative – Cwmni cydweithredol bwyd wedi’i leoli yn Splott, Adamsdown a Thremorfa, Caerdydd. Gwybodaeth am gynhyrchion bwyd a chymunedol i’w prynu.
The Sea Glass Co – Gemwaith eco-ymwybodol, wedi’i wneud â llaw, wedi’i wneud yng Nghaerdydd.
Gweithdy Galw Heibio – Brodwaith Llaw gydag Ophelia Dos Santos – Rhwng 11am – 1pm. Dysgwch dechnegau brodwaith llaw syml, ar ffabrig sgrap wedi’i daflu. Mae croeso i chi ddod â rhywbeth i drwsio, neu bydd deunydd ailgylchu ar gael ar y diwrnod.
Gorsaf Gwneud Bathodynnau – lliwiwch ein marc 30 mlynedd arbennig sy’n dathlu Masnach Deg, a gwnewch fathodyn unigryw.