Mae Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru, gyda chefnogaeth Hub Cymru Africa, yn eich gwahodd i ddigwyddiad ysgogol sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo ymdrechion Cymru ym meysydd gwrth-hiliaeth ac iechyd byd-eang.
Byddwn yn croesawu siaradwyr arbenigol ym meysydd cysylltiadau iechyd byd-eang, gwrth-hiliaeth a llwyddiannau’r diaspora:
Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio ymdrechion ysbrydoledig ein cysylltiadau partneriaid iechyd, cyfraniadau lleol a byd-eang staff y diaspora, mynd i’r afael â heriau fel bwlio a gwahaniaethu, ac yn dathlu arfer gorau wrth gefnogi rhwydweithiau a chymunedau lleol.
Byddwch yn rhan o’r drafodaeth bwysig hon wrth i ni gysylltu â byrddau iechyd, rhanddeiliaid a grwpiau eiriolaeth i lunio dyfodol mwy cynhwysol sy’n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol Llywodraeth Cymru. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ddysgu, cydweithio a gwneud gwahaniaeth!
12:00 | Cofrestru a Rhwydweithio |
12:30 | Croeso a Sylwadau Agoriadol gan Dr Julia Terry, Cadeirydd Partneriaethau Iechyd Byd-eang Cymru |
12:35 | "Cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol: gwneud cynnydd o fewn GIG Cymru" | Prif Anerchiad gan yr Athro Anton Emmanuel |
13:00 | Trafodaeth banel: Llwyddiannau a heriau partneriaethau iechyd byd-eang: cyflwyniadau a chyfle i rannu dysgu gyda Chymru ac Affrica a chysylltiadau byd-eang eraill |
14:00 | Cinio / Lunch |
15:00 | "Arbenigwyr yn Ein Plith: Cydnabod cyfraniad staff y diaspora i iechyd y DU ac iechyd byd-eang" | Prif Anerchiad gan Moses Mulimira, Cynghorydd Ymgysylltu Diaspora, Partneriaethau Iechyd Byd-eang |
15:15 | Trafodaeth Banel: Dathlu a chefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y diaspora yng Nghymru - cyflwyniadau a thrafodaeth |
16:15 | Rhannu Profiadau Bywyd: Gwrandewch ar brofiadau staff y diaspora yng Nghymru a phobl sy'n ymwneud â phartneriaethau iechyd byd-eang. |
17:15 | Egwyl / Break |
17:30 | "Symud pŵer ac adeiladu cynaliadwyedd" | Prif anerchiad gan Sam Njoku, Cyfarwyddwr Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol |
17:45 | Caffi'r Byd: Gweithiwch mewn grwpiau bach i fynd i'r afael â heriau mewn partneriaethau byd-eang a chefnogi gweithwyr iechyd y diaspora |
18:45 | Sylwadau Cau: Claire O'Shea, Pennaeth Hub Cymru Africa |
19:00 | Diwedd |