EN

Rhwydweithio Cymuned Cymru ac Affrica: Wrecsam

Rhwydweithio Digwyddiad mewn person Wrecsam Cofrestru

Ymunwch â ni yn y digwyddiad rhwydweithio diaspora ar y cyd, sydd yn cael ei gefnogi gan Hub Cymru Africa a’r Panel Cynghori Is-Sahara, ac sydd yn cael ei arwain gan y Tîm Lleiafrifoedd Ethnig ac  Ieuenctid (EYST) yn Wrecsam.

Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn canolbwyntio ar adeiladu cysylltiadau ac undod gyda’r gymuned diaspora a chynghreiriaid.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys gweithdy, cyflwyniad, bwyd, diodydd ac adloniant! Mae croeso i deuluoedd, ac mae man chwarae ar gael i blant.

Bydd Isimbi Sebageni, Swyddog Diaspora a Chynhwysiant o dîm Hub Cymru Africa yn siarad am fabwysiadu dull gwrth-hiliol tuag at undod byd-eang, ac yn rhannu gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan drwy Rhaglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru a rhaglen o ddigwyddiadau a chefnogaeth gan Hub Cymru Africa.

Gall aelodau Diaspora Affricanaidd a Charibïaidd gymryd rhan mewn gweithdy mapio cymunedol cyffrous, sy’n canolbwyntio ar hanes a threftadaeth pobl dduon, dan arweiniad prosiect KumbuKumbu gan SSAP.

Yr hyn yr hoffem i chi ei ddysgu o’r digwyddiad hwn yw cysylltiadau newydd, dealltwriaeth o undod byd-eang, a sut i gyfrannu a sefyll gyda’r diaspora Affricanaidd.

Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith ar gyfer unigolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned, elusennau micro Cymru-Affrica, cynghreiriaid, ac unrhyw un yn Wrecsam neu gogledd Cymru sydd â diddordeb mewn undod byd-eang. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!