EN

Sioe Ffasiwn Gynaliadwy a Chyfnewid Dillad gan WCIA

Celfyddydau a DiwylliantMasnach DegBywoliaethau Cynaliadwy Digwyddiad mewn person Y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd, CF10 3AP Cofrestru
  • Digwyddiad dan arweiniad pobl ifanc i archwilio dewisiadau amgen cynaliadwy
  • Yn cynnwys dyluniadau gan grëwyr cymreig newydd
  • Mynediad am ddim – Cyfnewid dillad, stondinau gwybodaeth, a mwy.

Mae Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru (YCA) a’r Llysgenhadon Heddwch Ifanc (YPA) yn falch o gyflwyno digwyddiad unigryw, sef Sioe Ffasiwn Gynaliadwy,  ar 13 Hydref 2024 yn y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd. Nod y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a arweinir gan bobl ifanc, yw ysbrydoli mynychwyr i herio’r diwydiant ffasiwn cyflym dinistriol a chroesawu dewisiadau cynaliadwy amgen.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys sioe ffasiwn gyda dyluniadau gan Ophelia Dos Santos, Imogen, a phobl ifanc greadigol eraill. Gall ymwelwyr gymryd rhan mewn cyfnewid dillad (cyfrannu 5 eitem ar y mwyaf a chymryd 5 i ffwrdd), pori stondinau gwybodaeth, ac ymgysylltu â sefydliadau fel Climate Cymru a Heddwch ar Waith.

Cysylltwch â yca@wcia.org.uk am ragor o fanylion.