Mae tlodi mislif yn broblem fyd-eang. Mae’n bwnc sy’n cyd-daro’n ddwfn ag iechyd, addysg, cydraddoldeb rhywedd, a hawliau dynol. Ymunwch â ni yn ein Cymuned Ymarfer Rhywedd nesaf, wrth i ni glywed gan ymgyrchwyr ac ymarferwyr am dorri tabŵs, atebion cynaliadwy, a chreu lle ar gyfer dysgu.
Mae mislif yn rhy aml yn cael ei gysylltu gyda stigmâu, tawelwch, a chywilydd. Ond y tu hwnt i hynny, mae miliynau o bobl sy’n cael mislif yn wynebu rhwystrau go iawn bob dydd: fforddio cynhyrchion mislif, cael mynediad at ddŵr glân a glanweithdra, a dim digon o wybodaeth gywir ac addysg am iechyd mislif.
Mae’r heriau hyn yn effeithio’n negyddol ar bresenoldeb ysgol, iechyd meddwl a chorfforol, ac ar gymryd rhan mewn cymdeithas, ac yn cryfhau anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac yn dyfnhau cylchoedd tlodi.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn:
Byddwn yn archwilio sut mae tlodi mislif yn her sy’n effeithio ar fenywod a merched yng Nghymru, ar draws Affrica, ac o amgylch y byd, ac yn archwilio sut y gallwn weithredu mewn undod i ysgogi newid ystyrlon, cynhwysol, i wneud cael mislif yn ddiogel, wedi’i gefnogi, a heb stigma i bawb.
Swyddog Diaspora a Chynhwysiant, Hub Cymru Africa
Mae gwaith Ore yn canolbwyntio ar eiriolaeth, cyfiawnder cymdeithasol, ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae hi’n angerddol am weithio gyda chymunedau diaspora Affricanaidd yng Nghymru ac am gyflwyno mentrau sy’n hyrwyddo cynhwysiant, tegwch, a chydweithio trawsddiwylliannol. Mae hi wedi ymrwymo i’r meysydd gwrth-hiliaeth, ymgysylltu â’r diaspora a grymuso menywod, ac mae hi’n gweithio i greu effaith gymunedol ystyrlon.
Cydlynydd Gwladol y DU, Days for Girls UK
Mae gan Delyth fwy na 15 mlynedd o brofiad o weithio fel unigolyn proffesiynol ym maes addysg ac fel ymgynghorydd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, ac mae hi’n ymroddedig iawn i gefnogi unigolion a chymunedau trwy gyfrwng addysg ac atebion cynaliadwy.
Mae ei gwaith yn cynnwys cydlynu timau gwirfoddol Days for Girls UK, rheoli’r gwaith o ddosbarthu pecynnau iechyd mislif y gellir eu hailddefnyddio ar draws y byd, a datblygu strategaethau eiriolaeth ac addysg iechyd mislif y DU. Mae Delyth wedi byw a gweithio dramor mewn gwledydd sy’n cynnwys Azerbaijan ac Angola, ac fe wnaeth ymuno â Days for Girls yn wreiddiol fel Arweinydd Tîm Gwirfoddol
Cynrychiolydd Gwlad Dros Dro, URBOND, Guinea
Mae URBOND yn elusen sydd wedi ennill sawl gwobr am hyrwyddo harmoni hiliol ac amrywiaeth. Mae’n creu cyfleoedd i bobl ifanc, ac yn helpu plant i gael mynediad at addysg.
Yn Guinea, mae Mariama yn arwain mentrau i wella mynediad at addysg ac i hyrwyddo lles plant, yn enwedig merched. Ers 2019, mae URBOND wedi adeiladu ysgolion, darparu adnoddau dysgu ac wedi mynd i’r afael â gwahaniaethau o ran rhywedd mewn addysg. O dan ei menter addysg plant, mae’r sefydliad wedi bod yn darparu pecynnau iechyd y gellir eu hailgylchu i ferched ysgol. Trwy bartneriaeth â Days for Girls UK, mae URBOND wedi dechrau cynhyrchu’r pecynnau hyn yn lleol, a nid mynd i’r afael â thlodi mislif yn unig ond hefyd, creu cyfleoedd gwaith i fenywod lleol. Mae Mariama wedi arwain nifer o weithdai ar y mislif, addysg rhywiol ac ar anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) hefyd, gan rymuso merched gyda gwybodaeth hanfodol a sgiliau bywyd.
Mae Cymuned Ymarfer Hub Cymru Africa yn le diogel, dewr a chynhwysol i’r rheiny sy’n ymwneud â hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, cyfiawnder rhywedd, a grymuso menywod i ddysgu a rhannu trwy brosiectau undod byd-eang.
Rydym yn cyfarfod 3 i 4 gwaith y flwyddyn, ac yn canolbwyntio ar thema wahanol bob tro.
Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer pynciau, siaradwyr, ac adborth. Mae hwn yn ofod i chi hefyd.