Mae hwn yn gyfle datblygu, i dreulio 8 wythnos yn Lesotho, yn cefnogi Corff Anllywodraethol lleol i adeiladu ei gapasiti sefydliadol, fel rhan o’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r lleoliad mewn sefydliad lleol, sy’n canolbwyntio ar weithredu; ei faes gwaith ydy rhyddhad dyngarol a ,datblygu, ac mae’n ymroddedig i wasanaethu unigolion sydd mewn perygl, gyda rhaglenni ar gyfer y canlynol:
Mae’r Corff Anllywodraethol wedi nodi ei fod yn brin o arbenigedd technegol uwch ac o systemau mewn hyrwyddo adnoddau, MEAL, cydymffurfiaeth ariannol, arloesedd digidol, ac eiriol seiliedig ar dystiolaeth. Er mwyn bodloni disgwyliadau cymunedol yn effeithiol ac i wella eu heffeithiolrwydd cyffredinol, maen nhw’n ceisio cymorth adeiladu capasiti wedi’i dargedu mewn meysydd fel y canlynol:
O ganlyniad i’r lleoliad, byddai’r sefydliad yn gobeithio dysgu arferion gorau mewn iechyd cymunedol, cynhwysiant digidol, ac mewn modelau mentrau cymdeithasol, yn ogystal ag ymagweddau arloesol i rymuso pobl ifanc a menywod, hyrwyddo polisïau, a llywodraethu. Maen nhw’n arbennig o frwdfrydig i gyfnewid gwybodaeth ar sut i ddenu rhoddwyr yn effeithiol, ar sut i gael adnoddau i alluogi prosiectau i barhau, ac ar systemau MEAL cadarn, tra’n dysgu hefyd sut mae sefydliadau Cymru’n integreiddio dulliau seiliedig ar hawliau a chyfranogiad cymunedol yn eu rhaglenni. Bydd y dysgu hwn a rennir yn cryfhau gallu’r Corff Anllywodraethol i addasu gwersi byd-eang i gyd-destun Lesotho, ac yn gwella cydweithredu traws-ddiwylliannol.
Bydd gennych sgiliau a phrofiad mewn nifer o’r meysydd uchod, byddwch yn gyfathrebwr rhagorol, a gyda’r gallu i ddatblygu capasiti staff trwy hyfforddiant.
I gael rhagor o fanylion neu i wneud cais, anfonwch e-bost at dîm Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru drwy e-bostio walesandafrica@gov.wales.
Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn cynnig cyfle datblygu i dreulio wyth wythnos yn Lesotho, Namibia neu Uganda.
Rydym yn mynd ati i ddarparu amrywiaeth eang o brosiectau gyda grŵp o bartneriaid amrywiol sydd ar waith yn y tair gwlad hyn sy’n wahanol iawn i’w gilydd.
Nod y rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yw gwella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd Affrica Is-Sahara a Chymru drwy amrywiaeth o brosiectau sy’n fuddiol i’r ddwy ochr, i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion o’r sector cyhoeddus, y sector busnes a’r trydydd sector yng Nghymru i weithio ar brosiectau sydd â’r nod o wella eu sgiliau arwain a sicrhau canlyniad datblygiadol i’r bobl y maent yn eu helpu. Mae’r cyfleoedd a restrir isod yn dangos lleoliadau a ofynnwyd amdanynt, ond efallai bod cyfleoedd eraill hefyd ar gael. Yn gyffredinol, rydym yn cynnal tua 10 o leoliadau y flwyddyn ac ni fuasem yn disgwyl anfon mwy nag un person i unrhyw sefydliad ar yr un pryd. Mae’r cynllun hwn ar agor i bawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Rydym yn enwedig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan aelodau o’r diaspora Affricanaidd.